Fe allai awduron a gweisg orfod talu ffi er mwyn cystadlu am wobr Llyfr y Flwyddyn eleni.
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n cynnal gwobr 2017 “yn yr hydref eleni”, a hynny wedi i adolygiad gan gwmni PR ddweud bod yna alw amdani.
Ym mis Ionawr, fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru y bydden nhw’n adolygu gwobr Llyfr y Flwyddyn er mwyn “ystyried modelau newydd” a sut i “weinyddu’r gwobrau’n gynaliadwy”.
Mae datganiad gan Lenyddiaeth Cymru heddiw yn dweud: “Roedd y cyfranogwyr yn unfrydol eu barn fod Llyfr y Flwyddyn yn taro golau ar y diwydiant llenyddol yng Nghymru, a’i fod yn un o elfennau pwysicaf y byd llenyddol.
‘Nodwedd hollbwysig’
“Rydym yn hynod o falch fod yr adroddiad hwn wedi cadarnhau ein rhagdybiaeth fod Gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn nodwedd hollbwysig ac yn uchafbwynt blynyddol i ddarllenwyr Cymru yn ogystal ag i’r rheini sy’n ymwneud â’r diwydiant llenyddol,” meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.
“Edrychwn ymlaen at gael partneriaid ynghyd i drafod sut y gallwn weithredu’r argymhellion hyn a chydweithio i ddatblygu’r gwobrau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn llwyddiannus am flynyddoedd i ddod.”
Prif argymhellion yr adolygiad
Fe fydd Llenyddiaeth Cymru yn “ymgynghori â phartneriaid” i ystyried yr argymhellion canlynol:
- symleiddio’r broses o feirniadu trwy gyflwyno cyfnod o hidlo llyfrau;
- codi ffi ar gyfer cyflwyno llyfrau;
- datblygu cynllun denu noddwyr;
- cydweithio gwell ar draws y sector er mwyn cynnal digwyddiad mawreddog;
- archwilio ffyrdd o ddatblygu’r noson wobrwyo.