Mae cyn-athro Addysg Grefyddol y nofelydd, Gareth F Williams, yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, wedi bod yn cofio anwyldeb a hiwmor ei gyn-ddisgybl, wedi i’r newydd dorri am farwolaeth yr awdur yn 61 oed heddiw.

Hyd yn oed yn ei lythyr ola’ at William Owen, Borth-y-gest, roedd Gareth F Williams yn gwneud hwyl am ei ben ei hun am iddo “ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol fel Charles Hawtrey o denau” – ac yntau’n un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen ar ddydd Mawrth y brifwyl yn Y Fenni.

Mae’r ysgrifwr, William Owen, hefyd yn cofio mynd ben-ben am wobr Llyfr y Flwyddyn gyda’i gyn-ddisgybl rai blynyddoedd yn ôl, a’r tynnu coes fu rhwng y ddau ohonyn nhw tros bwy allai ennill. Fel mae’n digwydd, meddai William Owen, “chafodd yr un o’r ddau ohonan ni smel arni y flwyddyn honno”.

Roedd Gareth F Williams a William Owen wedi rhyw led-gytuno i gyfarfod yng Nghaerdydd cyn y gaeaf hefyd… ond, meddai’r cyn-athro, “ar Fedi’r pedwerydd ar ddeg, a’r haf yn loetran… fe ddaeth y gaeaf” i’w gyn-ddisgybl. “Nid fel hyn mae hi i fod,” meddai wedyn, “hen gyn-athro yn talu teyrnged i gyn-ddisgybl… fel arall y dylai hi fod.”