Mari Bullock, sy’n 17 oed, yw enillydd Medal yr Ifanc Eisteddfod Dyffryn Ogwen eleni. Yma, mae hi’n siarad â golwg360 am ei buddugoliaeth, a’r hyn oedd wedi ei hysbrydoli hi i lunio’r darn.
Beth wnaeth dy ysbrydoli i ysgrifennu’r darn?
Dw i wastad wedi mwynhau ysgrifennu creadigol. Mae’n rhoi’r gallu i mi ddianc i fyd arall a bod yn rhywun arall drwy gymeriad. Daeth y stori hon i mi un dydd yn sydyn wrth i mi bendroni am gynnwys fy ngwaith cwrs ym mlwyddyn 12. Roeddwn yn awyddus i drin â thestun aeddfed fel galar a chyfrinach.
Ers faint wyt ti’n ysgrifennu?
Ers yr ysgol gynradd, roedd yr athrawon yn Ysgol Llanllechid yn rhai da am roi amser i ni feddwl a mynegi ein hunain yn greadigol. Erbyn hyn, mae fy sgiliau ysgrifennu wedi datblygu llawer yn yr Adran Gymraeg yn Nyffryn Ogwen. Mae’r athrawon yn barod iawn eu cyngor ac yn onest gyda ni, sy’n gwneud bywyd yn haws!
Wyt ti wedi ennill cystadlaethau o blaen?
Naddo. Dyma’r tro cyntaf, ac roedd yn dipyn o sioc. Roeddwn yn andros o nerfus i fynd ar y llwyfan, ond yn falch iawn hefyd.
Beth wyt ti’n gobeithio’i wneud yn y dyfodol o ran ysgrifennu?
Wel, y gobaith yw cael mynd i’r Brifysgol i astudio addysg gynradd, felly bydd yn gyfle i mi ysbrydoli disgyblion y dyfodol i gael yr un brwdfrydedd am ysgrifennu creadigol.
Oedd o’n anodd ysgrifennu darn mor emosiynol?
Oedd mae’n siŵr, roedd rhaid meddwl yn ofalus a newid llawer wrth fynd ymlaen. Er hyn, dw i wastad wedi mwynhau mynd i fyd rhywun arall, felly roedd hynny’n ei gwneud yn haws i mi bellhau fy hun yn bersonol oddi wrth yr emosiwn.
Pa mor falch yw dy deulu ohonot?
Roedd mam mewn sioc, fel fi, a mi griodd nain pan welodd y fideo ohonaf ar y llwyfan. Mae’n deimlad braf iawn cael gwneud y teulu’n hapus.
Gwarchod – Annwyl Lwsi
Dw i’n deffro i gnoc tawel ar ddrws fy ystafell wely. Dad. Fy nhad. Fy ngharreg. Fy ngwarchodwr. Y dyn sydd wedi angori fy mhlentyndod a chynnal fy mod drwy’r adegau tywyllaf.
“Penblwydd hapus cariad!” gwichia’n hapus. Yn rhy hapus. Yr adlais bell o boen yn ei eiriau yn chwalu unrhyw hapusrwydd pen blwydd merch ifanc gyffredin. Dw i’n ymestyn yn gysglyd. Ydy hi’n benblwydd hapus? Mae’r diwrnod ‘ma wedi bod yn fy mygwth ers blynyddoedd bellach. Dw i ‘di bod yn poeni am y llythyr ‘ma ers y diwrnod du hwnnw lle trodd fy mod ben i waered a dymchwelodd ffiniau diogel a chysurus fy mhlentyndod. Y diwrnod lle dygwyd mam o’r byd hwn a ngadael i’n gysgod o’r hen Lwsi, yn ddarn bach jig-so wedi sathru, y darn sy’n gwrthod ffitio mwyach.
“Diolch Dad. Ddo’ i lawr mewn ‘chydig”.
Brwydraf i ymateb.
“Gwranda, dydw i ddim yn siŵr os wyt ti’n cofio,” dechreuodd yn betrus, “ond ‘sgwennodd dy fam lythyr i ti cyn iddi… ti’n gwybod…” Roedd yn baglu dros ei eiriau. Marw! Pam na all ynganu’r gwirionedd?
“Dw i’n cofio Dad,” sibrydais wrth deimlo pwysau fy nghalon yn drymach nag erioed.
“Wel, dyma fo.” Mae’n rhoi’r llythyr i mi ac yn neidio allan o’m ‘stafell cyn imi gael cyfle i ddweud gair arall. Diolchaf am ei adawiad, does gen i ddim eisiau iddo fod yma gyda hyn.
Dw i’n syllu ar y llythyr yn ddi-emosiwn cyn ei agor mor araf ag y gallaf, fy nwylo’n ysgwyd fel coed ar ddiwrnod stormus.
Annwyl Lwsi,
Penblwydd hapus! Waw, Lwsi fach, ti’n 16 heddiw! Gobeithio bo’ chdi ‘di disgwyl i agor y llythyr ‘ma tan hynny. Dwi’n gwybod bod y byddi di. Roeddet ti wastad yn un ufudd, un annwyl.
Mae fy nghalon yn fy ngwddf. Teimlaf filiynau o emosiynau yn pwyso lawr arnaf allan o bob cyfeiriad. Dwi’n mygu.
Mae ‘na lwyth o betha’ ti ‘di ddysgu yn y blynyddoedd diwethaf hebo fi dwi’n siŵr. Ond o’n isio ‘sgwennu’r llythyr ‘ma i chdi erbyn dy benblwydd yn 16 achos dw i’n gwybod na dim ond côf plentyn bach sydd ganddo ti ohonof i bellach. Dw i’n gwybod dy fod di’n ferch ifanc wybodus a’r byd wrth dy draed erbyn hyn. Tybed sut wyt ti’n edrych? Mor dlos ag erioed dwi’n siwr.
Saith oed oeddwn i pan bu farw mam, ac Enlli ddim ond yn dair. Dydw i ddim yn meddwl bod Enlli’n cofio mam yn dda iawn, ond fi? Wna i fyth anghofio dim amdani. ‘Na i fyth anghofio ei harogl chysurus, na’r ffordd oedd ei gwallt hi’n cyrlio, na’r ffaith ei bod hi’n gwisgo’r un persawr blodeuog bob dydd. ‘Na i fyth anghofio’r ffordd roedd hi’n darllen straeon imi bob nos, na’r diwrnodau da gafon ni mewn sŵ neu barc, neu’n eistedd wrth y tân yn lliwio neu wneud jig-so. Redd hi’n fam dda. Mae pawb yn dueddol o feddwl mai eu mham nhw di’r orau dydi ond wir, gwn mai fy mami oedd honno. Ond, ‘na i hefyd fyth anghofio’i gweld hi’n sâl. Ei gwallt hi’n disgyn allan mor rhwydd â dail yn disgyn oddi ar goed yn yr Hydref, a’r plentyn bach chwe mlwydd oed methu deall pam. Cael fy neffro i sŵn fy nhad yn udo’n dawel ac yn erfyn ar fy chwaer fach dwy oed i fynd i gysgu a hithau’n beichio crio eisiau mam. Yn fwy na dim, wna i fyth anghofio diwrnod ei hangladd. Dw i dal i glywed sgrech Nain weithiau, a’n nhad drws nesaf iddi’n griddfan mewn gwewyr. Geiriau Enlli wedyn yn gyllell yng nghalon pawb wrth iddi ailadrodd “lle ma’ Mam?” yn ddiniwed a dryslyd.
Awst 16, 2012 ydy hi heddiw, Union wythnos cyn iddi farw a dw i’n gobeithio mai Ebrill 10, 2021 ydy hi pan ti’n darllen hwn. Dw i isio ti wybod fyswn i’n gwneud unrhyw beth i allu aros yma i dy wylio di’n tyfu, achyd yn oed pan fydda’ i ddim yma bellach, bydda’ i dal yma hefo ti. Fyswn i’n gwneud unrhyw beth i dy wylio di’n priodi ac i gael y fraint o fod yn Nain i dy blant. Eu gwarchod nhw yn y byd creulon ‘ma. Ond cyn hynny i gyd, i fod yn ysgwydd i grio ar ar dy daith i chwilio am y person perffaith i briodi ac i chwilio am dy le mewn bywyd. Fi oedd y person oedd yn fod i dy amddiffyn a bod yn gefn i ti pan oedd pethau’n mynd o’i le, a dwi mor sori na alla’ i wneud hynny Lws.
Blasaf ddŵr hallt fy nagrau yn rhedeg lawr fy mochau. O mam. Pam chdi? Fyswn i’n gwneud unrhyw beth i gael chdi’n ôl yma mam. Teimlaf yn saithoed eto a dwi dy angen di yn fwy nag erioed. Nid dy fai di ydy o. Mae bywyd yn gallu bod mor greulon. Doedd mam ddim yn haeddu hyn. Roedd hi’n haeddu gwell. Roedd hi’n haeddu’r byd a hithau wedi rhoi’r byd i ni.
Dw i’n cofio penblwydd olaf mam. Roedd hi’n troi’n 35. Llawer rhy ifanc ifod yn benblwydd diwethaf ar unrhyw un. Dw i’n cofio pobi ei chacen hi,roedd hi’n mynnu coginio’i chacen ei hun, er bod dad wedi cynnig ei gwneud hi. Breichled a modrwy gafodd hi’n anrheg gan dad. Fi sy’n gwisgo’r freichled rŵan, ac Enlli’n gwisgo’r fodrwy. Y symbol holl-bresennol o’r golled.
Dw i isio i chdi fod yn hapus Lwsi. Mwy na dim byd arall. Anghofia am bob dim sy’n dy wneud di’n anhapus. Dim ots am ddim byd arall. Os dwyt ti ddim yn hapus. Ffeindia rhywbeth i dy wneud di’n hapus.
Sut allaf fod yn hapus pan does gen a’i ddim amser i wneud dim byd oni bai am fynd i’r ysgol a gwaith? Yn enwedig ar y funud gyda arholiadau ar y gorwel. Alla i ddim siarad am mam efo Enlli oherwydd dydy hi ddim yn ei chofio hi, a phob tro dwi’n trio siarad efo dad, mae unrhyw sbarc sydd yn ei lygaid yn diffordd ac mae’n cilio i’w gragen.
Nadolig oedd hoff wyliau mam. Dydy o ddim yr un fath hebddi. Ni roddodddad y goeden i fyny y ‘Dolig cyntaf heb mam, a dwi’n dechrau amau maidim ond er mwyn fi ac Enlli mae o’n ei rhoi hi fyny rŵan. Doedd dad erioed y ffan fwyaf o Nadolig, ond roedd o bob tro’n rhoi gwên ar ei wyneb er lles Mam, Enlli a fi. Dydy o ddim hyd yn oed yn gwneud hynny ddim mwy.
Dim ots be’ wnei di yn dy fywyd, mi fyswn i’n falch ohonot. Cyn belled â dyfod di’n trio dy orau a dy fod di’n hapus, dyna’r oll alla i ofyn ohonat. Yr unig beth dw i isio i ti wneud yw trio dy orau ac adolygu a dw i’n addo na nei di ddifaru. Nei di sawl camgymeriad, mae hynny’n rhan o fywyd. Nes i ambell un hefyd, ond dwi’n difaru dim bellach. Mae rhai pethau fod yn llanast er mwyn cael dod o hyd i’r trysor. Ti oedd trysor fy nghamgymeriad Lwsi a dydy hynny’n newid dim ar y ffordd ma’ dy dad yn teimlo tuag atat. Gobeithio nad oeddet ti’n rhy siomedig ynof fi pan ddywedodd dad y gwir wrthot ti.
Mae’r pwysau yn dychwelyd ar fy nghalon, fy mherfedd. Teimlaf fy nghroen yn dynn ac yn pigo fel bod miloedd o wenynod yn fy mhigo. Camgymeriad? Mam, be wnes ti? A dad? Beth oedd dad fod i ddweud wrthaf? Mam??MAM! Sgrechiaf y gair ola’ a tarannai dad i mewn i fy stafell. Edrychai ar yr olwg ar fy ngwyneb a llifa pob diferun o waed o’i wyneb. Roedd o’n gwybod. Ni allai warchod ei ferch rhag y gwir bellach.
Byddaf bob amser yn dy garu di Lwsi. Edrycha ar ôl Enlli fach.
Cariad mawr,
Mam. <3