Bardd y Goron, Ifor ap Glyn - wedi'r cyhoediad swyddogol
Trwy gamgymeriad a thechnoleg, fe dorrodd yr Eisteddfod gyfrinach y Coroni o ychydig funudau.
Roedd enw’r bardd buddugol wedi mynd ar wefan Saesneg y brifwyl ychydig cyn y cyhoeddiad o’r llwyfan.
Yn ôl Swyddog y Wasg yr Eisteddfod, camgymeriad oedd hynny wrth geisio defnyddio’r dechnoleg newydd i dorri’r newyddion yn y ddwy iaith.
“Fydd o ddim yn digwydd eto,” meddai Gwenllian Carr.