Mae cyhoeddwr llyfrau adnabyddus wedi cipio Gwobr Goffa Daniel Owen.
Robat Gruffydd o Dalybont, Ceredigion oedd ‘Rhys’ yn y gystadleuaeth am nofel sydd heb ei chyhoeddi o’r blaen. Mae’n frodor o Abertawe a fe oedd sylfaenydd gwasg Y Lolfa.
Cafodd y nofel am Rhys, y gŵr canol oed sydd wedi symud i agor ty bwyta yn y Mwmbwls, ei chanmol am fod yn “ddarllenadwy a chrefftus.”
Mae’n derbyn £5,000 o wobr ac mae’n rhoi’r arian i fudiad iaith newydd Dyfodol i’r Iaith.