Cynan Jones
Mae Cymru a Japan wedi dod at ei gilydd i greu dau gynnyrch newydd sydd wedi eu lansio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ôl y gwneuthurwr, Cynan Jones o’r Ardd Fadarch yn Nanmor, mae’r ddau’n unigryw – Cafiâr Madarch, sy’n cyfuno madarch shitake a bara lawr, ac Umami, blasyn sy’n cynnwys powdwr shiatake, Halen Môn a gwymon bwytadwy.

‘Umami’ yw’r gair Japanaeg am ‘flas arbennig’ neu ‘y pumed blas’, ond yn ôl Cynan Jones, mae’r cynnyrch yn “hollol Gymreig”. Mae’r ddau gynnyrch yn llysieuol.