Carwyn Evans a'i waith 'Cast'
Torri cysylltiad rhwng ei waith a’i fro sydd wedi arwain at y Fedal Aur am waith celf i Carwyn Evans, y cerflunydd o Ddyffryn Teifi.
Ac mae’n dweud mai thema ei waith ar hyn o bryd yw ‘O gach a goleuni’ – gweithiau sy’n dangos tensiwn, er enghraifft rhwng siapiau onglog o bren caled a meddalwch cynffonnau ŵyn bach.
Mae hefyd yn dweud bod y gweithiau newydd yn arwydd o gyfeiriad gwahanol iddo. “Dw i’n trio colli unrhyw deimlad o berthyn i’r gwaith yr wy’n ei greu,” meddai wrth Golwg360.