Mae’r artist sydd wedi cipio Medal Aur Celf a Chrefft 2012 yn creu darnau cerameg ac yn eu gosod ymhlith trugareddau y mae hi’n dod ar eu traws mewn coedwigoedd, mewn siopau hen bethau, neu sêls cist car.
Mae Anne Gibbs yn dod o Gaerdydd, a dyma’r trydydd tro iddi anfon gwaith i’r Eisteddfod. Cafodd ei gwaith ei arddangos yn 2008 ac yn 2010, ond mae hi wedi ennill y wobr lawn o £5,000 eleni.
“Digon yw dweud bod ei gweithiau cerfluniol brau yn dal i beri cryn chwilfrydedd i mi,” meddai un o’r dewiswyr. “Maen nhw i gyd wedi eu hysbrydoli gan y dirwedd leol.”