Mae’r Urdd wedi tynnu blaen un o adeiladau Pentre Mr Urdd ar y Maes… rhag ofn y daw hi’n stormydd dros nos.

Gydag ardaloedd yn ne Cymru dan rybudd o law trwm a stormydd, mae’r Urdd yn chwarae’n saff yn Eryri hefyd, trwy dynnu’r babell wen sy’n ffurfio mynedfa Pentre Mr Urdd.

Mae’r tir dan draed heddiw yn fwdlyd, ac mae ceir wedi bod yn sglefrio wrth fynd a dod trwy’r maes parcio.

Mae’r rhagolygon yn addo mwy o law a gwyntoedd ar draws Cymru yfory, ar gyfer pumed diwrnod Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.