Nia Wyn Williams o Ysgol y Creuddyn
Nia Wyn Williams o Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn, ydi enillydd y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Mae ganddi ddiddordeb mewn bob math o waith celf a ffasiwn creadigol. Mae hi’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau a defnyddiau. A, gan ei bod yn astudio Celf a Thecstiliau, mae hi’n hoff iawn o gyfuno’r ddau yn ei gwaith.

“Mae artistiaid fel Tim Pugh, Luned Rhys Parri, Meirion Ginsberg, Nesta Pritchard ac Angela Evans yn fy ysbrydoli,” meddai Nia. “Dw i’n mwynhau ymweld ag arddangosfeydd ac orielau lleol er mwyn cael ysbrydoliaeth a chael fy ysgogi i gael syniadau newydd.

“Dw i ddim yn siwr pa elfen o waith celf dw i am ganolbwyntio arno ar hyn o bryd, ond dw i’n edrych ymlaen at wneud Diploma mewn Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor, am flwydydn cyn mynd i’r brifysgol i wneud cwrs gradd.

“Mae ennill y Fedal Gelf yn fraint ac yn anrhydedd i mi.”