Elan a phlant Ysgol Y Castell yn dathlu ar ol y seremoni
Er ein bod o’r dechrau wedi cynnal yr eisteddfod yn Ystrad Mynach yng Nghwm Rhymni ’Steddfod y Cymoedd’ yw’r enw a ddewiswyd iddi ac eleni fe ddaeth trwch y cystadleuwyr o gymoedd y Rhondda – y Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach. Pobl ifanc Côr y Cwm oedd y rhain, dan gyfarwyddid Elin Angharad a Gavin Ashcroft.
Fe enillodd y Côr gystadleuaeth y Côr Ieuenctid a’r Côr Agored. Ac o blith y cantorion o’r Rhondda y daeth llawer o enillwyr yr adran gerddoriaeth, yn unigolion, ddeuawdau, driawdau a phedwarawdau. Ond dyna braf hefyd oedd cael cefnogaeth ysgolion eraill yr ardal. Clywyd enwau Bro Allta, Bodringallt, Cwm Gwyddon, Bro Sannan, Ysgol y Castell, Ysgol Gymraeg Caerffili, Ysgol Pencae Caerdydd, Ysgol Martin Sant ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn ystod y noson.
Cafwyd pump awr a hanner o gystadlu brwd a roddodd foddhad enfawr i gynulleidfa o gannoedd. Roedd safon y cystadlaethau offerynnol yn arbennig o uchel.
Archdderwydd Cymru, T. James Jones, oedd yn beirniadu’r adran Llenyddiaeth i oedolion a Nia Richards yn tafoli’r adran ieuenctid. O’r adran honno y daw enillydd y gadair, os oes teilyngdod. Gyda chlod uchel fe ddyfarnwyd y gadair eleni i Elan Llwyd o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol y Castell Caerffili, sef yr ysgol a wahoddwyd i gyflwyno seremoni’r cadeirio. Gwnaethant hynny’n raenus ac urddasol.
Un ychwanegiad eleni oedd defnyddio offer cyfieithu ar gyfer rhieni a chefnogwyr di-Gymraeg y cymoedd. Golygai hynny fod iaith y llwyfan yn Gymraeg. Diolch i Fentr Iaith Caerffili am gael benthyg yr offer ac i Emyr Gruffydd a Ben Jones a fu’n defnyddio’r offer.
R Alun Evans