Mae tocynnau dwy o nosweithiau Eisteddfod Genedlaethol Mon wedi gwerthu allan – a hynny heb i’r brifwyl hysbysebu o gwbwl.

Yng nghyfarfod y Cyngor yn Aberystwyth heddiw, fe gadarnhawyd mai Canolfan Galw Cymru sy’n derbyn galwdau gan bobol sydd am brynu tocynnau, yn hytrach na’r Eisteddfod ei hun.

Fe aeth y tocynnau ar werth am 7 o’r gloch fore Llun yr wythnos hon. Erbyn 5 o’r gloch y diwrnod hwnnw, roedd tocynnau nos Iau wedi mynd i gyd. Erbyn 5 o’r gloch ddydd Mawrth, roedd tocynnau sioe Tudur Owen hefyd wedi mynd.

“Mae’r llinell docynnau ar agor o 7 y bore tan 8 y nos,” meddai Eifion Lloyd Jones ar ran Bwrdd Rheoli yr Eisteddfod. “Mae hynny’n golygu nad staff yr Eisteddfod sydd wedi gorfod ymateb i’r saith neu wyth mil o alwadau.

“Ond yn fwy na hynny, mae hyn wedi llwyddo ac wedi dangos fod yna ffordd o gyrraedd pobol trwy’r gwefannau cymdeithasol… yn ogystal ag ymateb i un o argymhellion pwyllgor Leighton Andrews o edrych i’r dyfodol.”