Dorothy Jones
Dorothy Jones o Langwm yw enillydd Medal Goffa Syr T H Parry Williams yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno’n flynyddol i berson sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais ar weithio gyda phobl ifanc.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod bod ei “chyfraniad i’w chymdeithas yn Llangwm yn amhrisiadwy” a bod ei “brwdfrydedd yn crisialu amcanion y wobr.”
Bydd Dorothy’n derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn yr Eisteddfod yn Ninbych heddiw.

Hanes Dorothy Jones

Yn wreiddiol o Lawr-plwyf, Trawsfynydd, symudodd Dorothy i Langwm ym 1955 fel athrawes ifanc a phriododd fachgen lleol.

Bu’n athrawes ac yn bennaeth yr Adran Anghenion Arbennig yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, ond bu hefyd yn hyfforddi a pharatoi unigolion a phartïon ar  gyfer Eisteddfodau.

Dywedodd yr Eisteddfod ei bod hi wedi bod ynghlwm a phob math o weithgareddau cymunedol a diwylliannol gan roi’r “cyfle i genedlaethau o ieuenctid yr ardal  gael eu trwytho a’u magu yn niwylliant ein cenedl, gyda chariad at yr iaith a threftadaeth Cymru’n agos at ei chalon.”
Y Fedal
Bu Syr T H Parry Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac ym mis Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu ei gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod.
Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.