Cor Seiriol (Llun: Pontio)
Mae’n chwarter canrif a mwy ers i gôr merched o ardal Bangor, Caernarfon ac Ynys Môn ffurfio ym mis Hydref 1991.
Datblygodd y côr o barti cerdd dant ac, o dan arweiniad Gwennant Pyrs, maen nhw wedi cystadlu mewn amryw gystadlaethau gan ennill categori Côr Merched yn mlwyddyn gyntaf Côr Cymru yn 2003.
Ond heblaw am y canu a’r cerdd dant, maen nhw’n cael eu hadnabod am newid delwedd corau Cymru.
“Ni oedd y côr wnaeth arloesi yn y byd ffasiwn,” meddai Gwennant Pyrs sy’n bennaeth cerdd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
“Dw i’n meddwl mai ni oedd y cyntaf i wisgo legins mewn cystadleuaeth cerdd dant. Mi oedd ffasiwn yn bwysig inni, achos roeddan ni gyd yn famau ac yn wragedd ifanc.”
Erbyn hyn, dywedodd eu bod nhw’n dueddol o lynu at ddu wrth gystadlu a pherfformio – “efallai ein bod ni wedi mynd yn eithaf confensiynol, yr un fath â phob côr arall.”
Cyngerdd 25
Mae’r côr wedi rhyddhau pump cryno-ddisg ar hyd y blynyddoedd, ac i nodi’r pum mlynedd ar hugain maen nhw wedi trefnu ‘Cyngerdd Mawreddog’ yng Nghanolfan Pontio yr wythnos nesaf (Mai 13).
Fe fyddan nhw’n perfformio cân newydd – ‘Lloergan’ – gan awduron ‘Hafan Gobaith’, sef Eleri Richards a Delyth Rees, ynghyd â pherfformiadau gan Gôr Godre’r Aran, Steffan Lloyd Owen a Jâms Coleman.
Bu’n rhaid gohirio cyngerdd dathlu gwreiddiol Côr Seiriol fis Hydref y llynedd oherwydd profedigaeth yn yr ardal.
Mae Gwennant Pyrs yn rhannu’i hatgofion yn y clip hwn: