Bryn Terfel (Llun: PA)
Mae pobol o bob cwr o Gymru a’r byd wedi bod yn anfon negeseuon trwy’r gwefannau cymdeithasol i longyfarch y canwr opera, Bryn Terfel a’i ddyweddi, Hannah Stone, ar enedigaeth merch fach.

Fe anwyd Lili Alaw ddydd Iau, Mai 4.

Dyma blentyn cyntaf y delynores o Abertawe, a dyma ferch gyntaf y canwr o Bantglas – mae eisoes yn dad i dri o feibion sy’n bellach yn oedolion ifanc.

Mae nifer wedi gwneud sylw o’r ail enw ‘cerddorol’ sydd gan y babi newydd.