Mae canolfan gelfyddydau Galeri yng Nghaernarfon, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cynnig cyfleoedd i artistiaid a’r gymuned greadigol.
Bydd modd i bobol ddefnyddio cyfleusterau’r Galeri er mwyn datblygu eu gwaith yn rhad ac am ddim.
Mae hyn yn cynnwys:
- Artist celf sydd eisiau stiwdio am gyfnod.
- Cerddor/band eisiau gofod ymarfer .
- Dramodydd/sgriptiwr sydd eisiau rhywle i ddatblygu ei waith neu gynnal darlleniadau gydag actorion.
- Gweithwyr llawrydd sydd yn chwilio am ofod ar gyfer unrhyw bwrpas celfyddydol/artistig/creadigol arall.
Mae gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb e-bostio Arweinydd Tîm Creadigol Galeri, Naomi Saunders.
“Ymgysylltu â’r gymuned”
Dywedodd Naomi Saunders wrth golwg360: “Cyn i hyn i gyd [y coronafeirws] ddigwydd roedden ni wedi bwriadu gwneud mwy o waith ymgysylltu â’r gymuned, ac mae o’n gyfle da i helpu pobol.
“Mae o’n bwysig iawn i ni fod yn gymuned yn teimlo’n berchen ar Galeri, nid jyst rhywle maen nhw’n mynd, ac rydan ni’n awyddus i ddod a phobol newydd i mewn yma hefyd.
“Mae’n gallu bod yn anodd ffeindio gofod weithia heb fod pobol ar ben ei gilydd, yn enwedig yn y Gogledd, felly gobeithio bydd pobol yn dod yma a bod y greadigol.”
Cyfle i roi yn ôl
“Mae’n amser anodd i bawb ar hyn o bryd ac mae hwn yn gyfle i ni roi yn ôl,” meddai Naomi Saunders.
“Dydy rhannau o’r adeilad ddim yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, a ’da ni ddim isio adeilad gwag, rydan ni isio’r bwrlwm ’na.”