Mae un o gefnogwyr y gwr sy’n cael ei gydnabod fel arlywydd newydd y Traeth Ifori, wedi galw ar i wledydd y byd ddefnyddio grym er mwyn symud Laurent Gbagbo o’r swydd y mae wedi ei hawlio ar gam.

Yn ôl y Prif Weinidog, Guillaume Soro, wnaiff Gbagbo fyth ildio ei le oni bai fod gwledydd eraill yn defnyddio grym yn ei erbyn. Ac mae angen ei symud, meddai wedyn, neu fe fydd yn tanseilio democratiath yn Affrica gyfan.

“Dim ond lladd amser mae o rwan,” meddai Mr Soro, “a’r un math o ladd amser oedd yn gyfrifol am y ffaith na chafwyd etholiad teg yn y wlad am bum mlynedd. Ond digon ydi digon. Mae’n rhaid iddo adael y swydd.”

Mae arlywydd Nigeria, Goodluck Jonathan, yn teithio i Abidjan ddydd Llun er mwyn trafod ymadawiad Mr Gbagbo o’r swydd. Ef yw llywydd ECOWAS, cymuned economaidd gwledydd gorllewin Affrica.

Mae ECOWAS eisoes wedi rhybuddio Mr Gbagbo y bydd yn cael ei orfodi o’r swydd gan rym milwrol, os na fydd yn penderfynu mynd o’i ddewis ei hun.