Mae Gwlad Groeg yn wynebu anrhefn llwyr heddiw wrth i undebau gynnal streic gyffredinol yn erbyn diwygiadau gwaith a diweithdra.
Fe fydd y streic yn effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau iechyd gyda phrotestio i’w ddisgwyl yn y brifddinas Athens.
Mae’r holl wasanaethau awyr, rheilffordd a llongau wedi cael eu hatal ac mae newyddiadurwyr yn streicio hefyd gyda rhaglenni teledu a radio a phapurau fory’n cael eu canslo.
Mae’r lluoedd diogelwch yn amlwg yn Athens oherwydd trais mewn protestiadau cynharach ym mis Mai eleni pan gafodd tri o bobol eu lladd.
Dyma fydd y seithfed streic yng Ngwlad Groeg eleni wrth i undebau wrthwynebu mesurau’r llywodraeth i dynnu’r wlad allan o’i hargyfwng economaidd gwaethaf ers yr Ail Ryfel Byd.
Y cefndir
Fe gafodd economi’r wlad ei hachub ym mis Mai ar ôl derbyn €110 biliwn oddi wrth y Gymuned Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.
Ond mae’r llywodraeth wedi gorfod torri cyflogau a phensiynau a chodi trethi ac oedran ymddeol er mwy lleihau diffyg ariannol Gwlad Groeg.
Mae’n cael ei ystyried yn un o’r cynlluniau torri mwya’ llym yn hanes y gyfundrefn ryngwladol.
Mae disgwyl y bydd mwy o streiciau ddydd Iau a Dydd Gwener hefyd.
Llun: Piraeus – prif borthladd Gwlad Groeg (Templar 52)