Mae tua 100 o bobol wedi cael eu hanafu wedi i ddaeargryn yn mesur 4.9 ar raddfa Richter, daro Iran heddiw.

Fe ddigwyddodd hyn ychydig wedi saith y bore (ychydig wedi 3 o’r gloch y bore, ein hamser ni) yn nhre’ Dorood, gan achodi difrod i dai.

Mae adroddiadau teledu yn dweud fod 25 o bobol yn aros yn yr ysbyty, tra bod eraill wedi cael eu hanfon adref ar ôl cael eu trin.

Mae’r daeargryn wedi achosi panig i bobol leol sy’n poeni y gallai mwy o ddirgryniadau.

Ar y ffawt

Mae Iran yn gorwedd ar un o ffawtiau mwya’ bywiog y byd, ac mae’n profi o leia’ un daeargryn bychan bob dydd.

Yn 2003, fe lwyddodd daeargryn yn mesur 6.6 ar raddfa Richter i lorio dinas Bam, gan ladd 26,000 o bobol.