Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Mark Thompson, wedi galw ar ei staff i beidio â streicio yfory gan ddweud nad oes gan y cyhoedd gydymdeimlad gyda nhw.
Bydd aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn streicio am 48 awr gan ddechrau am hanner nos. Mae’n nhw’n cynrychioli tua 17% o weithlu’r gorfforaeth.
Yn ôl yr undeb mae tua 200 o’u haelodau yn gweithio i BBC Cymru ac maen nhw’n disgwyl i’r streic effeithio ar wasanaethau Cymraeg y BBC.
Mae disgwyl i rywfaint o staff wrthod croesi’r llinell biced er nad ydyn nhw’n aelodau o’r undeb. Mae’r cyflwynwyr Nicky Campbell, Kirsty Wark a Martha Kearney eisoes wedi dweud na fydden nhw’n gwneud hynny.
Dywedodd yr undeb nad oedd yna “unrhyw archwaeth” o fewn y BBC i drafod gyda nhw ar hyn o bryd.
Daw’r anghydfod ar ôl i’r BBC ddweud y bydden nhw’n cyflwyno newidiadau i’r cynllun pensiwn er mwyn mynd i’r afael â diffyg ariannol o £1.5 biliwn yn y gronfa.
Yn ôl yr undeb fe fyddai derbyn y cytundeb yn golygu “talu mwy, gweithio’n hwy a derbyn llai o bensiwn”.
Yr e-bost
Ysgrifennodd Mark Thompson e-bost at staff y BBC bore ma gan ddweud y byddai’r streic “yn taro cyflogau” aelodau’r undeb “heb unrhyw fantais iddyn nhw”.
Rhybuddiodd y byddai’r streic yn difrodi safon rhaglenni’r gorfforaeth ac na fyddai’n bosib darlledu rhai ohonyn nhw.
“Fe fydd y cyhoedd – sydd dan bwysau economaidd – yn ei chael hi’n anodd deall pam bod gwasanaeth y BBC wedi ei ddiffygio yn y fath ffordd,” meddai.
Galwodd hefyd ar staff sydd ddim yn aelodau o’r undeb i groesi’r llinellau piced a dod i mewn i’r gwaith.
“Er fy mod i’n deall bod y penderfyniad i groesi llinell biced yn un anodd a phersonol, rydym ni yn disgwyl i bob aelod o staff sydd ddim yn rhan o’r undeb i ddod i’r gwaith yn ystod y streic,” meddai.