Mae cwmnïau teledu annibynnol Cymru wedi galw am ddeddf newydd i wneud yn siŵr fod S4C yn aros yn annibynnol.
Fydd cytundeb rhwng y Llywodraeth a’r BBC neu unrhyw un arall ddim yn ddigon, yn ôl y datganiad a wnaethon nhw i’r Fforwm ar Ddyfodol S4C ddoe.
Maen nhw eisiau sicrwydd am ddyfodol y sianel yn y tymor hir wrth i’r Adran Ddiwylliant yn Llundain geisio ei gorfodi i weithio mewn partneriaeth gyda’r BBC.
Er mwyn gwneud hynny, a thorri 6% y flwyddyn oddi ar arian y sianel, fe fydd y Llywodraeth yn cael gwared ar y ddeddf sydd wedi ei gwarchod hyd yma.
‘Mesurau statudol’
Mae’r cwmnïau, sy’n gweithredu trwy gymdeithas Teledwyr Annibynnol Cymru, yn pwyso am “fesurau statudol i ddiogelu dyfodol cynaladwy a thymor-hir i S4C annibynnol cryf”.
Er eu bod yn croesawu’r ffaith fod arian ar gael yn y tymor hir i’r sianel hyd at 2014 – tua £76 miliwn o arian y drwydded deledu a thua £7 miliwn gan yr Adran Ddiwylliant – maen nhw’n galw am sicrwydd y tu hwn t i’r dyddiad hwnnw.
“Mae’n destun pryder nad oes dim sicrwydd ynglŷn â’r gyllideb wedi 2014,” medden nhw. “Mae angen trefniant yn ei le, yn fuan.”
Maen nhw hefyd yn dweud bod eisiau deddf i sicrhau mai i brynu rhaglenni o’r sector annibynnol y bydd yr arian yn mynd.
Er hynny, dyw’r cwmnïau ddim yn cefnogi ymgais S4C i geisio cael Adolygiad Barnwrol ar benderfyniad y Llywodraeth gan ddeud ei fod “yn arafu’r drafodaeth ac yn peryglu’r dyfodol”.
Mae TAC yn dweud eu bod eisiau cymryd rhan llawn yn y trafodaethau ar gyfer y dyfodol ac eisiau lle ar Fwrdd Awdurdod S4C yn y dyfodol.