Mae sector gyhoeddus Gwlad Groeg wedi dod i stop eto heddiw wrth i weision sifil ddechrau streic 24 awr arall.
Maen nhw’n galw ar y llywodraeth i roi’r gorau i’w mesurau llym ar gyfer torri diffyg ariannol anferth y wlad.
Mae swyddfeydd treth, ysgolion a phrifysgolion wedi cau, a bydd rhaid i ysbytai ymdopi heb y rhan fwyaf o ddoctoriaid wrth iddynt aros adref am y dydd.
Bydd meysydd awyr Gwlad Groeg hefyd yn dod i stop am bedair awr pnawn ‘ma wrth i reolwyr traffig yr awyr ymuno â’r protestiadau.
Mae Gwlad Groeg wedi derbyn £97 biliwn gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol a gwledydd eraill Ewrop fel ei bod o’n gallu talu ei ddyledion.
Er mwyn cael yr arian bu’n rhaid i’r llywodraeth addo lleihau’r diffyg ariannol, gan dorri pensiynau, torri cyflogau gweision sifil a chynyddu trethi.
Mae undebau a rhai busnesau yn cwyno bod y mesurau yn mygu’r economi, wrth i gwsmeriaid gael eu gwasgu gan drethi uwch a llai o arian i’w wario.
“Mae’n mynd yn fwy amlwg bob dydd, bod polisi’r llywodraeth yma, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, a’r Undeb Ewropeaidd, yn lladd yr economi,” meddai undeb ADEDY.