Mae gweinidog yng nghabinet David Cameron wedi gofyn am gadarnhad gan y BBC heddiw na fydd y streiciau gan staff yn torri rheolau niwtraliaeth drwy fethu â darlledu cynhadledd y Blaid Geidwadol.

Ysgrifennodd cadeirydd y Blaid, y Farwnes Warsi, at gyfarwyddwr cyffredinol y gorfforaeth ar ôl i ddyddiadau dwy streic dros bensiynau gael eu cyhoeddi heddiw.

Fe fydd newyddiadurwyr, technegwyr a staff darlledu’n streicio am 48 awr ar y 5ed 6ed o Hydref.

Fe fydd y Tor?aid yn cynadledda yn Birmingham, lle fydd y Prif Weinidog yn gwneud ei araith fawr, yr un pryd.

Fe fydd streic 48 awr arall ar Hydref 19eg 20fed, yr un diwrnodiau ag y mae disgwyl i George Osborne ddatgelu manylion ei gyllideb.

Yn ei llythyr, nododd y Farwnes Warsi ei bod hi’n gobeithio y gallai’r broblem bensiynau gael ei datrys heb streicio – a heb effeithio ar ddarlledu’r gynhadledd.

“Hoffwn i wybod pa gynlluniau sydd gennych wrth gefn er mwyn sicrhau bod y Gynhadledd yn cael ei darlledu – er mwyn cyd-fynd â dyletswyddau’r BBC i ddarlledu gwleidyddiaeth yn ddiduedd.”

Ategodd y Gweinidog Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Hunt, ofidiau’r Farwnes Warsi, ond ychwanegodd mai’r “pwynt go iawn fan hyn yw’r effaith ar y bobl sy’n talu am y drwydded, sy’n ariannu’r BBC, nid y pleidiau gwleidyddol”.

Y streiciau

Mae’r streiciau yn dilyn cyhoeddiad gan y BBC ym mid Mehefin ynglŷn â newidiadau pellgyrhaeddol i’w rhaglen bensiwn.

Mae’r bwlch ariannol yn eu cronfa bensiwn wedi chwyddo o £470 miliwn i £2 biliwn.

Cafwyd ymdrechion i gyfaddawdu gan y BBC – ond fe bleidleisiodd aelodau’r NUJ a Bectu o 9 i 1 o blaid streicio.

Fe fydd undebau’n trafod ymhellach gyda’u haelodau cyn cwrdd eto ar 1 Hydref er mwyn penderfynu a fydden nhw’n bwrw ymlaen â’r streiciau.