Mae un o arweinwyr y Taliban wedi ei ladd yn Afghanistan ar ôl gwisgo fel merch a cheisio taflu grenâd at filwyr y tu allan i’r brifddinas Kabul.
Roedd byddin Nato wedi dilyn y cadlywydd Ghulam Sakhi i adeilad yn ardal Puli Alam yn rhanbarth Logar, neithiwr.
Yna defnyddiodd y milwyr uchelseinydd i alw ar ferched a phlant i adael yr adeilad.
“Wrth iddyn nhw adael, daeth Sakhi allan gyda’r grŵp wedi ei wisgo mewn dillad merch. Tynnodd ddryll a grenâd a saethu tuag at y milwyr,” meddai llefarydd ar ran Nato.
“Saethodd y milwyr ef a gollyngodd y grenâd a ffrwydrodd hi, gan anafu dynes a dau o blant.”
Dywedodd Nato bod un o filwyr yr Unol Daleithiau hefyd wedi ei ladd gan ffrwydryn ar ymyl y ffordd yn ne Afghanistan.
Mae 85 o filwyr wedi marw hyd yn hyn ym mis Mehefin, ac mae 51 o’r rheini yn Americanwyr. Dyma fis mwyaf gwaedlyd y rhyfel naw mlynedd oed yn barod.