Mae byddin India wedi datblygu arf newydd er mwyn brwydro terfysg – grenâd gyda chilli poetha’r byd y tu mewn.

Ar ôl cyfres o brofion mae’r fyddin wedi penderfynu defnyddio’r “bhut jolokia” neu “bwgan chilli” er mwyn creu grenâd sy’n atal terfysgwyr.

Y bhut jolokia, sy’n tyfu yng ngogledd-ddwyrain India, yw chilli poetha’r byd yn ôl gwobrau Recordiau Byd Guinness. Mae o 400 gwaith poethach na saws Tabasco.

“Fe fydd o’n arf effeithiol oherwydd bod ei oglau llym yn gallu tagu terfysgwyr a’u gorfodi nhw o’u cuddfannau,” meddai llefarydd ar ran adran amddiffyn y wlad.

Dywedodd fod yna hefyd gynlluniau aerosol ar gyfer merched fyddai’n cynnwys y chilli, i’w ddefnyddio os oedden nhw’n dioddef ymosodiad.