Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n dweud bod rhesymau pleidleiswyr am fod yn anfodlon “tu hwnt i amgyffred” David TC Davies, fu’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru tan bod senedd San Steffan wedi’i diddymu.

Dywedodd Aelod Seneddol Mynwy y bydd pob gwleidydd “yn ei chael hi” gan bleidleiswyr anfodlon, gan gyfeirio at y tebygolrwydd na fydd y Blaid Geidwadol mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Er bod polau piniwn yn darogan buddugoliaeth swmpus i Lafur, dywed David TC Davies nad oes fawr o “optimistiaeth” drwyddi draw gan bleidleiswyr, ac mai’r Ceidwadwyr sy’n debygol o ddioddef waethaf ar ôl cyfnod sy’n cynnwys y pandemig Covid-19, y rhyfel yn Wcráin a’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Dywedodd mai “canlyniad hyn oll” fyddai bod y Ceidwadwyr “yn ei chael hi” gan bleidleiswyr.

‘Rhestr eithriadol o hir o sgandalau’

Ond yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, “rhestr eithriadol o hir o sgandalau” sy’n gyfrifol am y sefyllfa mae’r Ceidwadwyr ynddi bellach.

Dywed nad yw David TC Davies yn deall y sefyllfa “os nad yw’n cydnabod mai’r rhestr eithriadol o hir o sgandalau ei Lywodraeth Geidwadol sy’n bennaf gyfrifol am yy ffaith fod y cyhoedd yn colli ffydd mewn gwleidyddiaeth”.

“Hyd yn oed pan fo ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig (Craig Williams) ac Aelod o’r Senedd (Laura Anne Jones) yn destun ymchwiliad, maen nhw wedi methu dysgu o’u camgymeriadau a dileu’r chwip.

“Ynghyd â’r sgandal yn ymwneud â rhoddion i Brif Weinidog Llafur Cymru, mae hyn yn creu darlun gwael o wleidyddiaeth.

“Fodd bynnag, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll i fyny ar lwyfan i lanhau gwleidyddiaeth Cymru, gan gynnwys gosod cap ar bob rhodd wleidyddol a gwahardd y defnydd yn y Llywodraeth o negeseuon WhatsApp mae modd eu dileu.”

Craig Williams wedi betio ar yr etholiad

Daw hyn ar ôl i Craig Williams, ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr ym Maldwyn a Glyndŵr, gyfaddef betio ar gynnal yr etholiad ym mis Gorffennaf.

Fel un o brif gydweithwyr Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae’n debyg ei fod e wedi cael gwybod yr union ddyddiad ddyddiau’n unig cyn gosod y bet gyda bwci Ladbrokes yn Sir Drefaldwyn.

Mae Rishi Sunak yn dweud ei fod e’n “siomedig” ynghylch ymddygiad Craig Williams yn dilyn yr honiadau am y bet yn The Guardian.

Ond dydy Williams na Sunak ddim wedi cadarnhau a oedden nhw wedi trafod yr union ddyddiad cyn i’r bet gael ei osod.

Mae’n debyg fod Craig Williams wedi betio £100 y byddai’r etholiad yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf, a chafodd y Comisiwn Gamblo wybod gan Ladbrokes am y bet.

Yn ôl Williams, roedd e wedi gwneud “camgymeriad enfawr” wrth osod y bet.

‘Hawlio treuliau ffug’

Laura Anne Jones AoS

Daeth negeseuon testun i’r amlwg oedd yn dangos rhan Laura Anne Jones, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, mewn ymgais bwriadol i hawlio treuliau ffug.

Roedd negeseuon testun oedd wedi dod i’r fei yn dangos ei bod hi wedi gofyn i weithiwr hawlio’r treuliau mwyaf posib ar ei rhan, ac mae’r mater bellach yn nwylo’r heddlu.

Mae ei chyfreithiwr yn dweud bod y sefyllfa wedi cael ei “chamddeall yn llwyr”.