Mae Stephen Kinnock, ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Aberafan Maesteg a llefarydd mewnfudo Llafur, wedi cyhuddo Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, o “lywyddu dros y flwyddyn waethaf erioed” o ran nifer y mewnfudwyr sy’n dod i wledydd Prydain.

Daeth i’r amlwg fod 882 o fewnfudwyr wedi croesi’r Sianel mewn cychod bach mewn un diwrnod ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 18), y nifer fwyaf mewn un diwrnod ers dros ddeunaw mis, pan gyrhaeddodd 947 ar Dachwedd 29, 2022.

Dyma’r pedwerydd ffigwr uchaf ers i Rishi Sunak ddod i rym.

Mae nifer y mewnfudwyr sydd wedi cyrraedd gwledydd Prydain yn ystod 2024 bellach wedi cyrraedd 12,315 sy’n gynnydd o 18% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd (10,472), ac yn uwch na’r 11,690 gyrhaeddodd yn ystod 2022.

Cynlluniau Llafur

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi cyfres o gamau y bydden nhw’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa, sef:

  • Creu swyddog diogelwch ffiniau elit newydd, gyda channoedd o ymchwilwyr arbenigol, asiantiaid cudd-wybodaeth a phlismyn trawsffiniol wrth law. Byddai’r swyddog hwn yn gyn-blismon, yn gyn-arweinydd milwrol neu’n gyn-swyddog cudd-wybodaeth ac fe fyddai’n atebol i Ysgrifennydd Cartref San Steffan ac yn cydweithio ag amryw o asiantaethau eraill. Byddai’n cael ei ariannu drwy arallgyfeirio’r arian gafodd ei glustnodi ar gyfer Cynllun Rwanda, ond mae pryderon y gallai hynny arwain at dwyll
  • Rhoi’r gorau i ddefnyddio gwestai, dlieu’r ôl-groniad o geisiadau am loches a chyflymu’r broses o ddychwelyd pobol i wledydd diogel, fyddai’n arbed biliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr, medd Llafur. Bydden nhw’n recriwtio dros 2,000 o staff i’r Swyddfa Gartref.
  • Diwygio llwybrau ailymgartrefu er mwyn atal pobol rhag cael eu hecsbloetio gan gangiau. Byddai hyn yn ei gwneud hi’n haws i bobol o dramor â theulu yn y Deyrnas Unedig i aros yn un o wledydd Prydain.
  • Sefydlu cytundeb newydd â Ffrainc a gwledydd eraill ynghylch dychwelyd ffoaduriaid ac aduno teuluoedd, gyda phwyslais arbennig ar blant.
  • Trwy bartneriaethau, bydden nhw’n mynd i’r afael ag argyfyngau dyngarol er mwyn helpu ffoaduriaid, gan gynnwys adfer yr ymrwymiad o 0.7% o gymorth pan fo’r sefyllfa ariannol yn iawn, a chryfhau’r gefnogaeth i bobol o Affganistan, y genedl fwyaf o bobol sy’n ceisio croesi’r Sianel ar hyn o bryd.

‘Atal y cychod’

“Mae’r cyfanswm ddoe yn mynd â’r cyfanswm mawr o gyrhaeddiadau i 126,637 ers i’r croesi ddechrau yn 2018, ac mae bron i 40% ohonyn nhw wedi cyrraedd ers i Rishi Sunak ddod yn Brif Weindiog,” meddai Stephen Kinnock.

“Bellach, mae 41,708 wedi cyrraedd ers iddo fe addo ‘atal y cychod’ ar Ionawr 4, 2023, a bron i 6,000 wedi cyrraedd ers i Ddeddf Rwanda ddod yn gyfraith ar Ebrill 25.

“Ymhell o atal y cychod, mae Rishi Sunak yn llywyddu dros y flwyddyn waethaf welodd ein gwlad erioed o ran croesi’r Sianel, gyda nifer y rhai gyrhaeddodd ddoe yn uwch na’r un diwrnod arall dros y deunaw mis diwethaf.

“Tra ei fod e wedi canolbwyntio’i holl ymdrechion ar geisio anfon 300 o fewnfudwyr i Rwanda, mae deugain gwaith yn fwy o bobol wedi croesi’r Sianel eisoes eleni, mae’r gangiau masnachu wedi mynd yn fwy cyfoethog fyth, ac mae’r swm mae’r llywodraeth yn ei wario ar westai i geiswyr lloches yn dal yn £8m y dydd.

“Mae gan y Blaid Lafur gynllun cynhwysfawr i chwalu’r gangiau ac i roi’r gorau i ddefnyddio gwestai, gyda channoedd o ymchwilwyr arbenigol yn defnyddio pwerau gwrth-frawychiaeth o dan Swyddog Diogelwch Ffiniau newydd, a chreu Uned Dychweliadau a Gorfodaeth newydd i symud pobol o Brydain nad oes ganddyn nhw’r hawl i fod yma.”