Mae’n rhaid gwrthod rhoi “blanced gysur” o drafod newid cyfansoddiadol o gwmpas gwleidyddion, yn ôl Andrew RT Davies.

Fe fu arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn siarad â golwg360, gan fynnu ei fod yn “mwynhau cefnogaeth” ei gydweithwyr er mwyn cael parhau’n arweinydd, er bod adroddiadau i’r gwrthwyneb.

Mi wnaeth o gynnal arbrawf gwleidyddol dros yr haf, gan ofyn am farn pobol yn Sioe Bro Morgannwg am ddyfodol datganoli yng Nghymru, gan gynnwys a ddylid diddymu’r Senedd – yn groes i bolisi ei blaid ei hun.

Er i’r neges gael ei dehongli gan nifer fel cam tuag at feddylfryd wrth-ddatganoli o fewn y Blaid Geidwadol, dywed Andrew RT Davies fod y Ceidwadwyr Cymreig yn “parhau i fod o blaid datganoli”.

“Os ydych chi’n edrych ar ein record mewn llywodraeth [yn San Steffan] ers 2010, rydyn ni wedi pasio dwy Ddeddf Cymru sydd wedi trosglwyddo nifer fawr o gyfrifoldebau i Senedd Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Fy mhwynt i am yr holl beth yw bod rhaid i ni fwrw ymlaen â’r gwaith cywir o wella bywydau pobol.

“Ac mae’n rhaid gwrthod ceisio rhoi’r flanced gysur yma o drafod newid cyfansoddiadol o gwmpas gwleidyddion drwy’r amser.”

Yng nghanol ras arweinyddol y Blaid Geidwadol Brydeinig, mae ambell ymgeisydd fel Kemi Badenoch wedi codi cwestiynau am ddyfodol datganoli a’r angen i ddychwelyd pwerau i San Steffan.

Wrth ymateb i hyn a chefnogaeth gan aelodau o’r Ceidwadwyr Cymreig i bolisi gwrth-ddatganoli, dywed Andrew RT Davies fod “pob plaid yn cynnal dadleuon a thrafodaethau”.

“Mae’r ymatebion i’r cwestiwn ym Mro Morgannwg yn dangos bod yna drafodaeth fyw i’w chynnal allan yno,” meddai.

“Fel gwleidyddion, mae’n rhaid i ni ymgysylltu â hynny.

“Drwy gynnal yr ‘arbrawf’ yno, roedden ni hefyd fel plaid yn ymgysylltu â phobol sydd fel arfer yn cerdded heibio stondin gwleidyddol, o ba bynnag blaid.

“Gobeithio, drwy wneud hynny, y bydd modd cael nifer o bleidleiswyr dros 50%.”

“Newyddion ffug” am ddyfodol yr arweinydd

Mae Andrew RT Davies yn mynnu ei fod yn parhau i “fwynhau cefnogaeth ei blaid”, hyd yn oed ar ôl adroddiadau dros yr haf fod ymdeimlad o fewn y blaid fod rhaid newid cyfeiriad.

“Dw i wir yn gegrwth pan mae’n dod i faint o newyddion ffug sydd allan yna ar y funud,” meddai wedyn.

“Dw i’n gwerthfawrogi bod yna nifer o newyddiaduron allan yna o’r chwith ac ar yr ochr genedlaetholgar sydd wedi rhoi lot o sylwadau allan dros yr haf, ond rydyn ni wedi bod yn parhau â’r gwaith o ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru.”

Yn ôl Andrew RT Davies, “does neb wedi dod ymlaen o fewn y blaid” yn erbyn ei arweinyddiaeth.

“Dydy arweinyddion pob plaid ddim ond yn gwneud y swydd honno os oes ganddyn nhw gefnogaeth y mwyafrif o hyd,” meddai.

“Does neb mewn swydd fel hon am oes.

“Ond rwy’n angerddol bod hwn yn gyfle yn arwain fyny i [etholiadau’r Senedd yn] 2026 i wneud gwahaniaeth ac i newid y cylch gwleidyddol negyddol.”

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Wrth drafod yr hyn sydd i ddod yn y Senedd dros y tymor nesaf, dywed Andrew RT Davies ei fod yn disgwyl i Eluned Morgan “ganolbwyntio ar y Gwasanaeth Iechyd”.

“Tair blynedd yn ôl, dywedon nhw [y Llywodraeth] eu bod nhw am fynd i’r afael â rhestrau aros, ond tair blynedd yn ddiweddarach mae’r rhestrau aros y gwaethaf maen nhw wedi bod erioed,” meddai.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 787,900 o bobol yng Nghymru yn aros am driniaeth.

“Rydych yn rhoi hyn i gyd at ei gilydd ac mae’n golygu bod 20% o boblogaeth Cymru, fwy neu lai, ar ryw fath o restr aros.”

Ychwanega fod yn rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r broblem oherwydd ei heffaith ar feysydd polisi eraill.

“Mae e fwy neu lai yn digwydd yn flynyddol, lle mae yna gyllid brys i fynd ag arian i ffwrdd o addysg, llywodraeth leol, yr amgylchedd ac amaeth ac yn ôl i sefydlogi’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

“Dydy’r Llywodraeth Lafur ddim yn gallu rheoli’r Gwasanaeth, ac mae’n rhaid cael Gwasanaeth newydd yn 2026.

“Ein gwaith ni fel Ceidwadwyr Cymreig ydy creu maniffesto sy’n fywiog ac sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobol.

“Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad ein bod ni wedi cyhoeddi polisi’r wythnos ddiwethaf ar ofal cymdeithasol, a hynny achos bod gofal cymdeithasol wedi cael ei anwybyddu gan Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan o’u hamryw gytundebau clymbleidiol.”