Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dweud eu bod nhw’n disgwyl chwarae “rôl allweddol” wrth gefnogi busnesau a phobol sydd wedi’u heffeithio gan newidiadau yn Tata Steel, yn dilyn rhyddhau arian yn ddiweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daeth y cyhoeddiad gan Steve Hunt, arweinydd y Cyngor, yn ystod cyfarfod llawn ar Awst 6, lle gwnaeth e annerch aelodau a rhoi gwybod iddyn nhw am swm cychwynnol o £13.5m sydd wedi’i ryddhau o gronfa Bwrdd Trawsnewid Tata Steel / Port Talbot.

Cafodd y bwrdd trawsnewid gwerth £100m ei sefydlu yn 2023 er mwyn helpu’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan newidiadau ar safle gwaith dur Tata yn y dref, gyda’r swm cyntaf o ychydig o filiynau’n cael ei gyhoeddi gan Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ystod cyfarfod ym mis Awst.

Daw hyn ar ôl i’r cewri dur Tata o India gau un o ffwrneisi chwyth enfawr y dref fis Gorffennaf eleni, a’r disgwyl yw byddan nhw’n bwrw ymlaen â chynlluniau i gau’r ail ffwrnais o fewn yr wythnosau nesaf.

Busnesau’n ddibynnol iawn ar Tata

“Bydd yr arian yma, y tro cyntaf i gyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael ei ryddhau o gronfa Bwrdd Trawsnewid Tata Steel / Port Talbot, yn cefnogi busnesau lleol sy’n ddibynnol iawn ar Tata Steel fel eu prif gwsmer, gan eu galluogi nhw i droi tuag at farchnadoedd a chwsmeriaid newydd lle bo angen,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd Trawsnewid.

“Bydd yr arian hefyd ar gael i weithwyr sydd wedi’u heffeithio gan y trawsnewidiad, gan eu galluogi nhw i gadw neu ddysgu sgiliau newydd ar gyfer y farchnad gyflogaeth.”

Wrth siarad yn ystod y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, fod eu “cefnogaeth fusnes, cyflogadwyedd a gwasanaethau ehangach wedi bod yn cefnogi niferoedd cynyddol o fusnesau ac unigolion dros y misoedd diwethaf wrth i’r newidiadau yn y gweithfeydd ddechrau cael effaith”.

“Dw i’n falch fod Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru wedi cymryd camau ar unwaith i ryddhau arian i alluogi asiantaethau, fel y Cyngor, i baratoi ar gyfer y niferoedd cynyddol o fusnesau a phobol y bydd angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw yn y misoedd i ddod,” meddai.

“Yn ogystal â chanolbwyntio ar y rhai sydd angen cymorth a chefnogaeth ar unwaith, dros y misoedd i ddod byddaf yn disgwyl i’r Bwrdd Trawsnewid ganolbwyntio ar yr hyn fydd yn cael ei wneud i ddisodli’r swyddi rydyn ni’n eu colli o’n heconomi leol.”

Yn ôl Rob Jones, arweinydd Llafur ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot, tra bydd croeso i’r cyllid gwerth £13m, dim ond piso dryw bach yn y môr yw e o gymharu â’r hyn sydd ei angen ar yr economi leol.

“Rydyn ni’n falch o glywed am y gefnogaeth i gymunedau lleol sydd wedi’u heffeithio gan y trafferthion yn Tata, ond piso dryw bach yn y môr yw hwn o gymharu â’r trychineb economaidd sydd ar y gorwel, ac mae angen rhagor o arian er mwyn cefnogi’r rheiny sy’n colli eu swyddi a’r effaith y bydd yn ei chael ar fusnesau lleol,” meddai.