Bydd un o bwyllgorau Cyngor Caerdydd yn cyfarfod yr wythnos hon i drafod adroddiad newydd ar gynnydd y ddinas.

Daw hyn wrth i’r Cyngor geisio cyflawni rhaglen uchelgeisiol i “greu prifddinas gryfach, decach a gwyrddach”.

Mae’r adroddiad yn nodi sawl llwyddiant, yn ogystal â nifer o fannau gwan neu sydd angen eu gwella.

Yn ôl datganiad gan Weinyddiaeth y Cyngor, bydd yr Adroddiad Lles Blynyddol yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad ddydd Mercher (Medi 11), cyn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet a’r Cyngor ar Fedi 19.

Nod yr adroddiad lles ydy gwerthuso gwaith y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf, a sicrhau eu bod nhw’n llwyddo i gyflawni eu huchelgeisiau.

Mae’r adroddiad wedi asesu cynnydd y Cyngor ar sail adborth gan y cyhoedd, archwilwyr y Llywodraeth, a’r swyddogaeth graffu gwleidyddol.

Yn ôl y datganiad, bydd hyn yn sicrhau “adolygiad o berfformiad teg a chytbwys”.

Mae crynodeb o ganfyddiadau’r adroddiad wedi’i gyhoeddi gan y Cyngor eisoes.

Mae’r adroddiad yn mesur perfformiad y Cyngor yn erbyn amcanion penodedig y Cyngor, fod Caerdydd yn ddinas “gryfach, tecach, a gwyrddach”.

‘Cryfach, tecach, gwyrddach’

‘Cryfach, tecach, gwyrddach’ ydy’r enw ar weledigaeth bresennol Cyngor Caerdydd wrth gynllunio at y dyfodol agos.

Cafodd yr ymgyrch i gyflawni’r weledigaeth ei lansio gan Huw Thomas, arweinydd y Cyngor, fis Gorffennaf 2022.

Roedd yn disodli’r weledigaeth flaenorol, ‘Uchelgais Prifddinas’, yn dilyn etholiadau’r Cyngor ym mis Mai.

Yn ôl datganiad gafodd ei gyhoeddi bryd hynny, roedd yn ymrwymo’r Cyngor i greu:

  • Caerdydd Gryfach: Denu buddsoddiad a busnesau newydd i’r ddinas, hybu cynhyrchiant economaidd, creu swyddi o ansawdd da yn sectorau sylfaenol a gwerth uchel Caerdydd, a rhoi hwb i’w gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a’r bygythiadau amgylcheddol cysylltiedig.
  • Caerdydd Decach: Darparu addysg, hyfforddiant, gwaith a gwasanaethau cymdeithasol rhagorol, yn ogystal â chysylltedd trafnidiaeth, i sicrhau bod pob dinesydd yn gallu elwa ar dwf Caerdydd a’r cyfleoedd newydd mae’n eu creu.
  • Caerdydd Wyrddach: Darparu rhwydwaith cadarn o deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan wneud Caerdydd yn ‘ddinas 15 munud’, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a gwella bioamrywiaeth leol, gan sicrhau bod twf yn gynaliadwy ac yn gyson â’r ymrwymiad i ddod yn Ddinas Carbon Niwtral drwy 2030.

Cafodd glasbrint yn manylu ar ddulliau mwy penodol ar gyfer cyflawni’r weledigaeth ei gyhoeddi fis Mawrth y llynedd, gan gynnig braslun o gynlluniau’r Cyngor yn ôl saith amcan lles, sef:

1) bod Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu

2) bod Caerdydd yn lle gwych i dyfu’n hŷn

3) cefnogi pobol allan o dlodi

4) cymunedau diogel, hyderus a grymus

5) prifddinas sy’n gweithio dros Gymru

6) Caerdydd Un Blaned

7) moderneiddio ac integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus

Yr wythnos hon, wrth ymateb i gwblhau’r Adroddiad Lles, cadarnahodd y Cynghorydd Huw Thomas fod y Cyngor wedi ymrwymo i’r weledigaeth, er gwaetha’r problemau cyllid sydd wedi peri gofid i gynghorau lleol ledled y wlad.

“Ein huchelgais yw gwneud Caerdydd yn brifddinas gryfach, decach a gwyrddach – dinas o gyfleoedd, lle gwych i fagu teulu gydag ysgolion gwych, swyddi gwych, a bywyd diwylliannol gwych,” meddai.

“Mae gennym uchelgeisiau uchel ar gyfer Caerdydd, ac er gwaetha’r argyfwng costau byw a’r pwysau parhaus ar gyllid y sector cyhoeddus, rydym yn benderfynol o wneud ein gorau i sicrhau bod prifddinas Cymru yn parhau i dyfu a ffynnu.

“Bydd pawb yn gwybod fod cyllid cynghorau ar draws y Deyrnas Unedig yn parhau’n hynod o anodd.

“Mae’r adferiad ar ôl y pandemig wedi bod yn hir ac yn anodd, gyda llai a llai o arian ar gael i’r gwasanaethau cyhoeddus mae pobol wedi dod i’w disgwyl.

“Mae’r galw am ein gwasanaethau – yn enwedig mewn gofal cymdeithasol plant ac oedolion, a chostau darparu ysgolion gwell a chartrefi cyngor newydd – yn rhoi straen enfawr ar y cyllid sydd gennym ar gael.

“Er gwaetha’r pwysau ariannol hyn, rhaid i ni beidio â chael ein dal mewn meddylfryd ’dim cynnydd’.

“Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gofalu am yr henoed, yr ifanc a’r rhai mwyaf agored i niwed, tra ar yr un pryd yn ceisio adeiladu dinas fydd yn tyfu’n economaidd; dinas fydd ag ansawdd bywyd uchel, ochr yn ochr â sîn ddiwylliannol wych, un fydd yn denu buddsoddwyr a busnes, gan greu cyfleoedd cyflogaeth newydd, darparu swyddi â chyflog gwell, a helpu pawb yma, a phawb sy’n dod yma i fyw, i symud ymlaen.”

Canfyddiadau’r adroddiad

Mae braslun yr adroddiad yn datgelu sawl gwelliant gan y Cyngor eleni, gan gynnwys:

  • sicrhau bod cyrhaeddiad disgyblion yn parhau’n uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer graddau A* i C Safon Uwch, ac ar gyfer graddau A* i C TGAU
  • darparu 1,200 o gartrefi newydd fel rhan o raglen adeiladu cartrefi’r Cyngor
  • darparu £68m i economi Caerdydd ers 2012 drwy’r Cyflog Byw Gwirioneddol
  • ysgogi £5.4m mewn cyllid allanol i fuddsoddi mewn cymunedau lleol dros y deuddeg mis diwethaf
  • cymryd rôl weithredol i greu a diogelu 2,400 o swyddi yn 2023/24…

Yn ogystal, mae’r adroddiad yn cadarnhau bod cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer cam cyntaf prosiect Cledrau Croesi Caerdydd, fydd yn cyflwyno system dramiau rhwng gorsafoedd Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, fel rhan o gynllun Metro De Cymru.

Bydd y cyllid hwn hefyd yn darparu gwelliannau i ardaloedd cyfagos i’r llinell dramiau newydd.

“Mae’r canlyniadau eleni yn galonogol iawn,” meddai Huw Thomas.

“Rydym yn adeiladu mwy o dai cyngor, y prosiect mwyaf o’i fath yng Nghymru.

“Rydym yn lleihau ein hallyriadau carbon wrth i ni ymdrechu tuag at y targedau amgylcheddol gaiff eu nodi yn ein Strategaeth Un Blaned.

“Ac rydym yn sicrhau cyllid mawr ei angen gan y llywodraeth sydd o fudd i’n cymunedau lleol ac yn cynorthwyo ein system trafnidiaeth gyhoeddus.

“Rwy’n falch iawn o weld bod ein rhaglen datblygu tai ar y trywydd iawn, er gwaethaf rhai amodau heriol iawn yn y farchnad gyda chyfradd chwyddiant a chyfraddau llog.

“Mae hefyd yn galonogol gweld y gwaith rydym yn ei wneud ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod gennym fwy o staff i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn, er bod y maes hwn o fusnes y Cyngor yn wynebu heriau digynsail a rhagwelir y bydd yn profi cynnydd o ran galw yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae creu swyddi mewn unrhyw brifddinas yn rhan hanfodol o economi leol sy’n tyfu, felly unwaith eto, mae’n galonogol gweld bod 2,400 o swyddi naill ai wedi cael eu creu neu eu diogelu drwy waith y Cyngor yn 2023/24.”

Fodd bynnag, fe amlinellodd yr adroddiad sawl man lle bydd angen talu sylw dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys:

  • cynnydd yn y galw am wasanaethau plant a phobol ifanc
  • lefelau presenoldeb mewn ysgolion, ac oedi o ran datblygiad disgyblion oherwydd y pandemig
  • pwysau ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol i blant ac oedolion fel ei gilydd
  • y galw am lety brys a thros dro yn cynyddu’n sylweddol oherwydd yr argyfwng tai
  • diffyg o £49.726m yn y gyllideb ar gyfer 2025/26.

Cydnabod gwendidau

Er bod yr adroddiad yn canmol y Cyngor am weithredu i leihau nifer y bobol fu’n cysgu ar y stryd yng nghanol y ddinas rhwng mis Tachwedd y llynedd a mis Mawrth eleni, o 50 i 19 unigolyn, erbyn mis Awst roedd y ffigwr wedi dringo’n ôl i 47 unigolyn.

Mae Huw Thomas yn cydnabod y gwendidau hyn fel rhan o ddioddefaint cyllidol cynghorau ledled y wlad, gan bwysleisio ymdrechion y Cabinet i leihau costau gwasanaethau.

“Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â blwyddyn ariannol 2023/24 ac yn dangos yr heriau parhaus y mae’r Cyngor yn eu hwynebu oherwydd yr adferiad ar ôl y pandemig, a’r cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a chyfraddau llog sy’n effeithio ar ystod o wasanaethau’r Cyngor,” meddai.

“Drwy’r newidiadau cyllidol hyn i economi’r Deyrnas Unedig, mae awdurdodau lleol wedi dioddef, gyda chostau cynyddol i ddarparu gwasanaethau cyngor.

“Gyda hyn i gyd mewn golwg, ym mis Mai 2024, cychwynnodd y Cabinet gam cyntaf adolygiad a dyluniad o wasanaethau’r Cyngor, gyda tharged arbedion o £100m wedi’i osod dros y pedair blynedd nesaf.

“Mae cyfres o egwyddorion wedi’u nodi gan fy Nghabinet, gyda dinasyddion Caerdydd ar flaen y gad, fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bawb sydd eu hangen.

“Rhaid i ni adeiladu ar y cynnydd sydd wedi’i wneud ers i’r pandemig ddod i ben, ac mae’r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd hwnnw a’r heriau sydd o’n blaenau.”

‘Asesiad teg a chytbwys’

Yn ogystal ag ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, mae Huw Thomas wedi canmol y broses adolygu.

“Wedi dweud hynny oll, rydym yn cydnabod y meysydd sydd angen eu gwella ac mae rhai heriau mawr o’n blaenau a ddaw yn sgil yr adferiad parhaus ar ôl y pandemig a’r argyfwng costau byw sydd wedi effeithio’n fawr ar gyllideb y Cyngor,” meddai.

“Mae’r Cyngor yn rheoli risgiau a materion newydd wrth iddyn nhw godi a bydd yn parhau i wneud hynny, gan ddarparu trawswasanaeth, gweithio’n lleol, a chydweithredu â’n partneriaid yn y sector preifat, a’r trydydd sector i gyflawni pethau.

“Rwy’n glir bod system berfformiad dda yn un sy’n ein galluogi i gydnabod lle mae cynnydd yn cael ei wneud ac i nodi meysydd lle mae angen ymyrraeth i fynd i’r afael â meysydd heriol.

“Dyna’n union y mae’r adroddiad hwn yn ei wneud drwy gynnig asesiad teg a chytbwys y gellir seilio cynllunio’r dyfodol arno.”