Mae cynllun i ddatblygu tai “fforddiadw” yng nghanol pentref gwledig “prysur” ym Môn wedi cael ei gymeradwyo – er gwaethaf pryderon am ddiogelwch y ffyrdd.

Mae cynllunwyr yr ynys wedi cytuno y gall cymdeithas dai Grŵp Cynefin ddatblygu tai ar dir pori yng nghanol Bodffordd, y tu ôl i Gapel Sardis.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn ystod cyfarfod Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion Cyngor Ynys Môn ddydd Mercher (Medi 4).

Roedd y cynllunwyr wedi derbyn 31 o lythyrau a phedwar o sylwadau ar-lein, ac roedd tri chyfarfod wedi’u cynnal yn lleol i drafod y cynigion.

Y cynlluniau a’r pryderon

Roedd y cynlluniau’n ymwneud â chais llawn i godi 15 o gartrefi, creu mynedfa i gerbydau a cherddwyr, a ffordd fewnol ar gyfer mynediad ar dir ger Scotland Terrace.

Ymhlith y pryderon roedd “traffig a diogelwch priffyrdd, colli preifatrwydd, diffyg angen, gorddatblygu, draenio, llifogydd, prinder cyfleusterau lleol, gwasanaeth bws gwael, effaith ar gymeriad a diwylliant yr ardal, yr iaith Gymraeg a cholli tir amaethyddol”.

Roedd y Cyngor Cymuned hefyd wedi codi pryderon ynghylch “diogelwch priffyrdd” a doedden nhw “ddim yn medru cefnogi” cynlluniau i adleoli’r arhosfan bws ger y fynedfa arfaethedig.

Amddiffyn y datblygiad

Dywedodd Sioned Edwards, yr asiant ar gyfer y datblygwyr Cadnant Planning, fod y tai’n 100% “fforddiadwy” ac yn gymysgedd o dai a byngalos, un ohonyn nhw’n gartref pum ystafell wely i “ddiwallu anghenion teulu penodol”.

“Byddai’r tai yn cyfrannu at angen am gartrefi lleol,” meddai.

Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud i’r cynlluniau hefyd, ac mae “sicrwydd” fod cyfleusterau tai lleol “wedi’u gwarchod”.

Mae materion yn ymwneud â thrafnidiaeth a gweladwyedd wedi cael eu datrys, newidiadau wedi’u gwneud o ran arhosfan bws, a does “dim pryderon” o ran priffyrdd a diogelwch ffyrdd, meddai wrth y cyfarfod.

Mae’r swyddog cynllunio’n ystyried y cynllun yn “estyniad derbyniol” i’r pentref, gan ddweud ei fod yn cydymffurfio â’r polisi.

“Fydd y cynnig ddim yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch priffyrdd nac ar gyfleusterau’r eiddo cyfagos na’r ardal leol,” meddai.

Mae un eiddo o fewn ffiniau datblygu Bodffordd, a does dim gofynion fod rhaid iddo fod yn eiddo fforddiadwy, meddai adroddiad.

Mae gofyn bod yr 14 eiddo arall yn fforddiadwy, ac yn destun Adran 106, sy’n gytundeb cyfreithiol.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r datblygwyr ddarparu £73,542 tuag at Ysgol Bodffordd a £4,623 ar gyfer ardal chwarae.

Roedd y swyddog cynllunio wedi cynnwys y cytundeb 106 yn rhan o’i argymhelliad i gymeradwyo’r cynlluniau.

Galw i mewn

Ond cafodd y mater ei alw i mewn gan yr aelod lleol, y Cynghorydd Non Dafydd, sydd wedi disgrifio’r ffordd ger y safle fel un “beryglus”.

“Mae problemau yma, mae’n ffordd brysur iawn rhwng dau gyffordd prysur iawn, ac yn yr ardal hon mae siop drydanol boblogaidd sy’n derbyn nwyddau gan ddwy lori a fan fawr,” meddai.

Mae ceir yn parcio ar hyd y ffordd yn golygu bod rhaid i gerbydau fynd i ganol y ffordd, dros y llinellau gwynion.

Disgrifiodd hi un ardal lle mae lorïau’n mynd heibio o chwarel, cerbydau fferm, rhieni’n gyrru eu plant i ysgol lle mae 100 o ddisgyblion, a bysiau’n casglu teithwyr, a dywedodd fodd bws ysgol mawr yn gollwng plant a cherddwyr yn yr ardal ger y fynedfa arfaethedig.

“Mae angen tai arnom, ond mae angen ei wneud mewn ardaloedd addas, ac mewn ffordd addas,” meddai.

“Dw i’n ymbil arnoch i ystyried diogelwch pobol Bodffordd a gwrthod hyn.”

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen ar ran trigolion Bodffordd, cytunodd y Cynghorydd Dylan Rees ei bod yn “ffordd brysur iawn â llawer o draffig trwm”, ac fe gododd bryderon am y fynedfa i ffordd B5109.

Mae 43 o bobol ar restr sydd eisiau tai, meddai, “ond dim ond un oedd â Bodffordd yn ddewis cyntaf”.

Does “dim angen” cartrefi ym Modffordd, ond mae angen yn Llangefni, lle mae siopau a gwasanaethau, meddai.

Tro pedol

Dywedodd y Cynghorydd Paul Ellis y byddai’n siarad yn erbyn y cynllun, ond ei fod e wedi newid ei feddwl yn dilyn cau Ysgol Talwrn ac ar ôl “gweld yr effaith ar y gymuned”.

“Mae’n ymddangos bod teulu’n dod ataf bob wythnos ag angen dybryd am gartref; mae prinder tai, yn enwedig yn y pentrefi hyn,” meddai.

“Dw i’n teimlo y dylen ni basio’r datblygiad er mwyn cadw teuluoedd lleol yn eu cymuned ac er mwyn cadw cymunedau’n fyw.”

Cymeradwyo

Dywedodd y swyddog priffyrdd Alun Roberts fod ei adran yn “hapus” â’r hyn oedd wedi’i ddarparu yn y cynlluniau, gan ddweud nad ydyn nhw’n “gwrthwynebu’r cais”.

Fe wnaeth y Cynghorydd Geraint Bebb gynnig cymeradwyo’r cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

Fe basiodd gyda naw pleidlais.

Roedd y Cynghorydd Robert Llewelyn wedi cynnig ei wrthod, ond doedd neb i’w eilio.