Mae’r mwyafrif llethol o bobol yn credu y dylai’r hawl i dai digonol ddod yn rhan o’r gyfraith yng Nghymru, yn ôl arolwg barn newydd.

Byddai sefydlu’r hawl i dai digonol yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy, addas, gyda deiliadaeth ddiogel ac sy’n bodoli gofynion diwylliannol, ar gael yn lleol i bawb yng Nghymru.

Yn ôl arolwg gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas yr Iaith, byddai 85% (gan eithrio’r rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’) o blaid hynny.

Mae’r mudiad iaith am i’r Llywodraeth ei gyflwyno fel rhan o’u papur gwyn ar dai digonol a rhenti teg, gan ddweud y byddai unrhyw beth llai yn “annigonol”.

Gofynnodd YouGov y cwestiwn canlynol i 1,151 o oedolion dros 16 oed ledled Cymru:

A ydych chi’n credu y dylai neu na ddylai yr hawl gyfreithiol i dai digonol fod wedi’i sefydlu yng nghyfraith Cymru?

Mae tai digonol yn golygu cael deiliadaeth sicr – peidio â gorfod poeni am gael eich troi allan, cael eich cartref wedi’i gymryd i ffwrdd, cael eich symud i rywle y tu allan i’ch diwylliant, neu fod yn bell o wasanaethau fel ysgolion a chyflogaeth.

‘Cefnogaeth gref ac eang’

Roedd 74% yn cytuno, ac 13% yn anghytuno.

O hepgor yr atebion ‘ddim yn gwybod’, cododd y ffigwr i 85%.

Ymysg pleidleiswyr Llafur a Phlaid Cymru yn etholiad 2024 roedd y gefnogaeth uchaf, gyda 93% a 97% o blaid ar ôl diystyru’r atebion ‘ddim yn gwybod’.

“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos cefnogaeth gref ac eang dros ben i fynd i’r afael o ddifrif â’r argyfwng tai drwy sefydlu hawl gyfreithiol pobl Cymru i dai digonol,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith.

“Ar hyn o bryd, mae’r farchnad dai yng Nghymru yn trin eiddo fel asedau yn unig, yn hytrach nag fel hawl ddynol, sydd yn ei dro yn dinistrio cymunedau trwy orfodi teuluoedd a phobol ifanc sydd methu fforddio byw yn lleol i adael.

“Ni allwn adael dyfodol cymunedau Cymraeg, boed Gymraeg neu ddi-Gymraeg, i fympwyon y farchnad agored fel hyn.

“Yr hawl gyfreithiol i gartref – fel sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gofal iechyd neu addysg – yw sail ein cynigion Deddf Eiddo, ac rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i’w cynnwys yn eu papur gwyn sydd ar ddod ar dai.

“Byddai unrhyw beth yn llai na hyn yn annigonol.”

Yn dilyn rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Mai, bydd y mudiad yn cynnal rali arall ym Machynlleth ar Fedi 14 gyda Delyth Jewell, dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith, a’r awdur Mike Parker.