Mae Reform UK yn fwy o fygythiad i’r Blaid Lafur yng Nghymru nag yw hi i’r Ceidwadwyr Cymreig, yn ôl Aelod Ceidwadol o’r Senedd.

Fe fu Natasha Asghar, sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn y Senedd, yn siarad â chylchgrawn Golwg am ddyfodol y Ceidwadwyr yng Nghymru ac ar lefel Brydeinig.

Dywed fod y cynnydd yn y gefnogaeth i Reform, yn ne Cymru yn enwedig, yn “drawiadol”.

“Mi wna i siarad yn blwmp ac yn blaen – i blaid sydd wedi dod o nunlle, mae e’n drawiadol tu hwnt,” meddai.

“Dw i’n credu bod Reform yn gystadleuydd go iawn yn Senedd 2026.

“Dw i’n credu y byddan nhw’n gwneud yn ardderchog yn y Cymoedd.

“I fi, mae gen i deimlad bod Llafur yn poeni fwy am bleidlais Reform nag ydyn ni [y Ceidwadwyr Cymreig].”

Mwy o seddi i Lafur wrth ehangu’r Senedd?

Dywed Natasha Asghar ei bod hi’n credu bod Llafur Cymru o’r farn y byddai’r cynllun i ehangu’r Senedd “yn golygu mwy o seddi i Lafur”.

“Ond dw i’n credu nawr bod y Blaid Lafur yn sylweddoli bod bygythiad Reform iddyn nhw yn wir iawn hefyd,” meddai.

Ychwanega ei bod hi’n credu bod Reform UK yn “copïo polisïau Ceidwadol”, ac mae hi’n gobeithio y bydd etholwyr yn gallu gweld tu hwnt i hynny.

Mae cylchgrawn Golwg wedi gofyn i Reform am ymateb i’r cyhuddiad hwnnw.

Cyfle i ymgeiswyr annibynnol

Tu hwnt i’r pleidiau, dywed Natasha Asghar ei bod hi’n credu bod cyfle gwirioneddol i ymgeisydd annibynnol yn cael ei ethol am y tro cyntaf yn 2026.

Yn yr etholiad cyffredinol yn San Steffan, enillodd ymgeiswyr annibynnol bum sedd, gan gynnwys Jeremy Corbyn.

Roedd dwywaith y nifer o ymgeiswyr annibynnol yn sefyll yn 2024 na 2019.

Ac mae Rhys ab Owen bellach yn aelod annibynnol, wedi iddo gael ei ddiarddel gan Blaid Cymru.

“Byddai cael ymgeisydd sydd yn annibynnol go iawn, ac sydd ddim wedi cael eu gwahardd, yn neis ac yn galondid i’w weld,” meddai Natasha Asghar.


Dadansoddiad Rhys Owen:

“Mae’n glir bod y clacson etholaethol anweledig wedi’i ganu yn yr ymgyrch ar gyfer Senedd 2026. Gyda ffiniau’r etholaethau dan sylw ddoe, mae’n dod yn fwyfwy amlwg i wleidyddion fod yr etholiad jest rownd y gornel a bod rhaid dechrau ymosod go iawn.

“Mae twf Reform wedi bod yn drawiadol, a bydd yn rhaid disgwyl i weld eu cynnig i Gymru yn arwain i mewn i’r etholiad nesaf, ac a fydd twf yn parhau ar lefel genedlaethol heb fod etholiad cyffredinol yn cael ei alw tan 2029. Does dim amheuaeth y bydd Reform yn gweld bod cyfle enfawr iddyn nhw yng Nghymru, yn enwedig gyda’r system etholiadol gyfrannol, ac mae’n siŵr y gwelwn ni Nigel Farage a’i gyfeillion yn glanio yn y Cymoedd eto’n fuan i rannu’r neges.

“Gyda llywodraethau Llafur ar y naill ochr a’r llall i Bont Hafren, mae hyn yn broblem i Lafur, sydd yn draddodiadol wedi mwynhau cefnogaeth gref yn ardaloedd y Cymoedd. Gyda sefyllfa gyllidol anodd ar y gweill yn San Steffan a’r Senedd, mae modd gweld pam fod Natasha Asghar yn credu bod Reform nawr yn fwy o broblem i Lafur nag y maen nhw i’r Ceidwadwyr.”