Bydd cynllunwyr yn gwneud penderfyniad ynghylch cynigion cynllun tai “sylweddol” mewn pentref gwledig yn Llŷn sydd wedi arwain at ffrae ynghylch y Gymraeg ac ail gartrefi.

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais i adeiladu deunaw o dai fforddiadwy ar dir pori ger Cae Capel ym mhentref Botwnnog.

Mae’r cais gan R. Williams o Cae Capel Cyf drwy law’r asiant Jamie Bradshaw o Owen Devenport Ltd. wedi denu gwrthwynebiadau lleol “cryf”, yn ôl adroddiad cynllunio.

Yn yr adroddiad, dywedodd Cyngor Cymuned Botwnnog ar ran y gymuned ei bod hi’n teimlo fel pe na bai “unrhyw angen lleol” am y cartrefi, gan honni mai pedwar enw yn unig sydd ar restr ar gyfer tai.

Dywed y Cyngor Cymuned y byddai’r tai yn gyfystyr â “gorddatblygiad”, ac maen nhw’n ofni y gallen nhw fynd i bobol ddi-Gymraeg.

Byddai hefyd yn ychwanegu at y pwysau ar ysgolion, systemau carthffosiaeth ac yn cael effaith ar wasanaethau iechyd lleol sydd eisoes “wedi’u llethu”, yn ogystal â bod “yn groes i ewyllys” trigolion lleol.

Maen nhw’n nodi ei bod hi eisoes yn “amhosib cael apwyntiad i weld arbenigwyr iechyd”.

“Mae’r ymgeisydd yn nodi y byddai’r tai arfaethedig ar gyfer pobol leol, ac felly mae’n debygol y byddai’r trigolion yn siaradwyr Cymraeg.

“Yn anffodus, dydy hynny ddim yn dal dŵr.

“Gwyddom fod yna gryn alw yn yr ardal am ail gartrefi a llety tymor byr, ac mae grym y fasnach dwristiaeth wedi arwain at fewnlifiad sylweddol o bobol ddi-Gymraeg i’r ardal ers degawdau.

“Mae hyn wedi arwain at ddirywiad sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau cyfagos Llangïan/Abersoch: dydy’r grym dirywiol hwn ddim yn adnabod ffiniau.”

Beth yw ystyr ‘lleol’?

Mae’r Cyngor Cymuned hefyd wedi cwesitynu ystyr “lleol”.

“Ai Botwnnog ydi o? Dwyfor? Gwynedd? Gogledd Cymru?

“Ydi o i rywun sydd wedi byw yn Llŷn erioed, neu rywun oedd wedi symud yma ddwy neu dair blynedd yn ôl, neu ddegawd a mwy yn ôl hyd yn oed, ond sydd heb wneud ymdrech i ddysgu Cymraeg, sef iaith y gymuned?

“Byddai’n wych pe bai argaeledd y tai arfaethedig yn gallu cael ei gyfyngu i siaradwyr Cymraeg yn unig.

“Fel y gwyddom, mae hi ond yn cymryd presenoldeb ychydig o bobol ddi-Gymraeg i droi iaith gyfathrebu’r gymuned o’r Gymraeg i’r Saesneg.”

Ychwanega’r Cyngor fod yr ymgeisydd “yn disgwyl i’r gymuned wneud y gwaith integreiddio angenrheidiol”.

“Y wers hanes mewn nifer o gymunedau Cymraeg ydi nad ydi hynny’n debygol o ddigwydd.”

Gwrthwynebiad

Wrth ymateb mewn llythyr, nododd yr ymgeiswyr nad yw’r gwrthwynebiadau’n ymwneud ag angen yn seiliedig ar ffeithiau, ond yn hytrach “yn mynd yn groes i dystiolaeth a chyngor proffesiynol”.

Ond gallai manylion cofrestri tai gafodd eu rhannu yn y cais “brofi bod angen sylweddol yn lleol ar gyfer y cais”.

“Mae’r farn hon wedi’i chefnogi gan Adran Dai’r Awdurdod eu hunain, sy’n cadarnhau lefel uchel o angen yn ardal Cyngor Cymuned Botwnnog (34 o aelwydydd ar y gofrestr ar gyfer tai cymdeithasol, a 14 ar gofrestr Tai Teg,” meddai’r ymgeiswyr.

O ran y Gymraeg, fe wnaeth yr ymgeiswyr ddadlau bod “disgwyl i’r preswyliaid fod yn bobol leol, ac felly bydd gan boblogaeth y datblygiad yr un nodweddion Cymraeg â’r boblogaeth leol gan y byddan nhw’n cael eu tynnu oddi yno”.

“Felly, fydd dim effaith ar yr iaith, neu’r nesaf peth i ddim, ac yn sicr ddim yn ddigon i fod yn niweidiol yn ei hanfod i’r iaith.”

Fe wnaeth yr ymgeiswyr ildio nad oedd “unrhyw anghytuno” ynghylch data’r defnydd o iaith a newid ieithyddol, gostyngiad o ran nifer siaradwyr, na thwf ail gartrefi neu lety gwyliau.

“Mae’r prif fater yn cael ei golli, sef y byddai’r cynnig yn darparu tai fforddiadwy i ddiwallu’r anghenion lleol mae tystiolaeth ar eu cyfer,” medden nhw.

Roedd pryderon fod disgwyl i’r gymuned integreiddio pobol ddi-Gymraeg hefyd yn “camgynrychioli ein dadl”, medden nhw.

“Yn hytrach, yr hyn sy’n cael ei awgrymu yw y byddai’r sefydliadau lleol a lefel y siaradwyr yn y gymuned yn ddefnyddiol wrth integreiddio unrhyw bobol ddi-Gymraeg all fod yn byw yn ardal y cynllun (pe bai’n cael ei gymeradwyo).

“Byddai hynny, ynghyd â’r mesur arall sydd wedi’i amlinellu yn y datganiad, yn helpu pobol ddi-Gymraeg wrth integreiddio yn y gymuned ac wrth ddysgu’r iaith.”

Penderfyniad

Mae disgwyl i’r mater fynd gerbron cyfarfod cynllunio’r Cyngor ddydd Llun (Medi 9).

Byddai’r cynnig, sy’n cynnwys mynedfa newydd oddi ar ffordd B4413, yn gweld pedair byngalo dwy ystafell wely â rhent gymdeithasol fforddiadwy i bobol dros 55 oed.

Byddai chwe byngalo dwy ystafell wely yn darparu tai rhent gymdeithasol a thai rhent canolradd, ac mae byngalos tair ystafell wely ar gyfer tai rhent gymdeithasol, rhent ganolraddol, a rhent ganolraddol gydag opsiwn i brynu.