Mae’r cynigion cyntaf ar gyfer etholaethau newydd Senedd Cymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Medi 3).

Bydd gan Gymru 16 etholaeth yn hytrach na’r 40 etholaeth a’r pum rhanbarth presennol erbyn etholiad 2026.

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cynnig 16 etholaeth drwy baru’r 32 etholaeth sy’n cael eu defnyddio yn etholiadau San Steffan, gan sicrhau bod pob etholaeth yn ffinio â’i phartner.

Ymysg y cynigion mae paru Dwyfor Meirionnydd a Maldwyn a Glyndŵr, creu un etholaeth Sir Gaerfyrddin, a pharu Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe. Byddai Ceredigion a Sir Benfro’n dod ynghyd dan y cynigion, a Sir Fynwy a Thorfaen yn uno.

Erbyn etholiad 2026, bydd chwe Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol i bob un, gan ddefnyddio’r dull rhestrau caeëdig D’Hondt, sef y system sy’n cael ei defnyddio ar gyfer rhestrau rhanbarthol y Senedd ar hyn o bryd.

Mae’r newidiadau i’r etholaethau’n rhan o’r broses o ddiwygio’r Senedd dan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fydd yn golygu bod gan Gymru 96 Aelod o’r Senedd yn hytrach na’r 60 presennol.

Yr 16 etholaeth sy’n cael eu cynnig yw:

  1. Bangor Aberconwy Ynys Môn
  2. Clwyd
  3. Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam
  4. Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr
  5. Ceredigion a Sir Benfro
  6. Sir Gaerfyrddin
  7. Gorllewin Abertawe a Gŵyr
  8. Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
  9. Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr
  10. Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd
  11. Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili
  12. Sir Fynwy a Thorfaen
  13. Casnewydd ac Islwyn
  14. Dwyrain a Gogledd Caerdydd
  15. Gorllewin Caerdydd, De a Phenarth
  16. Bro Morgannwg a Phen-y-bont
Cynigion cychwynnol etholaethau newydd Senedd Cymru

Mae’r Comisiwn o’r farn mai dim ond os oes modd teithio drwyddi draw heb orfod gadael yr etholaeth y dylid meddwl am etholaethau fel rhai sy’n ffinio.

Yn sgil hynny, doedd y Comisiwn ddim yn ystyried Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd yn gynnig addas, gan nad oes modd teithio o un i’r llall ar y ffordd heb orfod mynd mewn i Fangor Aberconwy.

Fe wnaeth y Comisiwn hefyd ystyried cysylltiadau lleol, megis hanes ardal, y Gymraeg ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol, mewn ymgais i gynnig etholaethau sy’n teimlo mor naturiol â phosib, meddai.

Fodd bynnag, dydy’r Comisiwn ddim yn ystyried effaith ei gynigion ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol.

‘Cam cyntaf da iawn’

Mae’r Comisiwn hefyd yn agor ymgynghoriad pedair wythnos i geisio barn pobol ledled Cymru, ac maen nhw eisiau clywed barn y cyhoedd am enwau’r etholaethau arfaethedig.

“Mae heddiw yn gam pwysig iawn yn y daith tuag at ddiwygio’r Senedd,” meddai Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

“Yn etholiad 2026, bydd ein senedd genedlaethol yn cael ei hethol gan ddefnyddio system hollol newydd, gydag etholaethau cwbl newydd.

“Mae’r Comisiwn yn hyderus bod ein cynigion cychwynnol yn gam cyntaf da iawn i greu 16 o etholaethau Senedd newydd Cymru, ond gwyddom o brofiad bod y prosesau hyn bob amser yn cael eu cryfhau pan fyddwn yn clywed gan y cyhoedd.

“Felly rydym yn annog pawb yn gryf i rannu eu barn gyda ni, boed yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion, fel y gallwn fynd ymlaen i gryfhau’r map ymhellach cyn yr etholiad nesaf.”

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Fedi 30, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad ar y Cynigion Diwygiedig ym mis Rhagfyr, cyn cyfnod pellach o ymgynghori.

Mae disgwyl y penderfyniad terfynol fis Mawrth nesaf.

‘Nid dyma’r flaenoriaeth gywir’

Wrth ymateb, dywed Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros y Cyfansoddiad, eu bod nhw wedi gwrthwynebu’r diwygiadau i ehangu’r Senedd ers y cychwyn.

“Nid dyma’r flaenoriaeth gywir a bydd mwy o newid ffiniau’n achosi mwy fyth o ddryswch i bobol sydd wedi gorfod dioddef newidiadau i ffiniau cynghorau ac etholiadau San Steffan yn barod,” meddai.