Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf o “adael plant y Cymoedd i lawr” tros ddiffyg twf addysg Gymraeg.

Daw’r feirniadaeth ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yr wythnos nesaf.

Maen nhw’n galw ar y Cyngor Sir i fynd ati ar frys i wneud yn iawn am yr hyn maen nhw’n ei ddisgrifio fel “degawdau o ddiffyg gweithredu”.

Dim ond tuag 20% o blant y sir sy’n derbyn addysg Gymraeg ar hyn o bryd, a dydy Cyngor Rhondda Cynon Taf ddim wedi agor ysgol Gymraeg newydd ers sefydlu’r Cyngor yn 1996.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae hyn yn amlygu “diffyg uchelgais difrifol”.

‘Hawl wedi diflannu dros nos’

Mewn llythyr agored gan Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, cafodd penderfyniad y Cyngor i gau Ysgol Pont Siôn Norton ei feirniadu, wrth iddyn nhw ddweud bod “hawl teuluoedd i gael addysg Gymraeg ar garreg y drws wedi diflannu dros nos”.

Yn ogystal, maen nhw’n beirniadu “symudiad annisgwyl a dinistriol o ymgynghori ar newid cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o un ddwy-ffrwd iaith i ysgol cyfrwng Saesneg”.

Yn lle hynny, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am gadw’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Dolau, a chynyddu darpariaeth Gymraeg yr ysgol gyfan dros amser, fel bod holl blant yr ysgol yn cael addysg Gymraeg yn y pen draw.

“Er gwaethaf rhethreg Cyngor Rhondda Cynon Taf, myth yw’r stori o dwf o ran addysg Gymraeg yn y sir,” meddai Toni Schiavone o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae 80% o blant y sir yn cael eu haddysg yn Saesneg, a bydd y mwyafrif llethol yn gadael yr ysgol heb fod yn hyderus yn y Gymraeg.

“Rydyn ni’n gwybod fod pobol ifanc yn dymuno dod yn siaradwyr hyderus, ac mae diffyg twf addysg Gymraeg yn gadael plant y Cymoedd i lawr.

“Does dim arwydd chwaith fod pethau’n gwella: mae penderfyniadau diweddar i gau Ysgol Pont Siôn Norton ac ymgynghori nawr i droi Ysgol Gynradd Dolau yn ysgol cyfrwng Saesneg yn gamau gwag difrifol sy’n mynd â ni i’r cyfeiriad anghywir.”

‘Cam yn ôl i’r Gymraeg’

Mae un o rieni’r sir yn dweud bod y Cyngor Sir yn gyfrifol am “gam yn ôl” mewn addysg Gymraeg yno.

Rhiant lleol yw Lowri Mared, a bu’n ymgyrchu yn erbyn penderfyniad y Cyngor i gau Ysgol Pont Siôn Norton.

“Mae’n siom fod y Cyngor ddim yn gweld taw cam yn ôl i’r Gymraeg oedd y penderfyniad i ail-leoli ysgol Pont Siôn Norton y tu allan i gymuned Gogledd Pontypridd.

“Wrth wneud y penderfyniad yma, mae’r Cyngor wedi diystyru’r sgil-effaith ar yr iaith yn gyfan gwbl.

“Bydd rhai plant nawr yn gorfod pasio saith ysgol Saesneg ar y ffordd i’w hysgol Gymraeg agosaf.

“Bydd ardaloedd Cilfynydd, Glyncoch ac Ynysybwl yn colli’r iaith gan fod y Cyngor wedi gwneud addysg Gymraeg yn amhosib i lawer.”

Addysg Gymraeg i bawb?

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros weld pob plentyn yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050.

Yn ôl gwaith ystadegol gafodd ei gomisiynu gan y Gymdeithas, er mwyn sicrhau bod holl blant Rhondda Cynon Taf yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, byddai angen i 40.2% o ddisgyblion cynradd y sir gael addysg Gymraeg erbyn 2035.

Ar hyn o bryd, dim ond 16% o blant cynradd y sir sydd mewn ysgol Gymraeg.

Mae’r Gymdeithas yn pwysleisio na fydd addysg Gymraeg i bawb yn digwydd dros nos, ond fod angen gweithredu uchelgeisiol er mwyn dechrau ar y daith.

Mae’r ymgyrchwyr wedi gosod camau er mwyn dechrau ar y broses o gynyddu darpariaeth yn sylweddol, sef:

  • gweddnewid cynlluniau presennol er mwyn creu twf cyflym, adnabod y bylchau mwyaf brys o ran addysg Gymraeg yn y sir, a chlustnodi’r ysgolion cyntaf sy’n dysgu drwy’r Saesneg ar hyn o bryd i symud at fod yn ysgolion Cymraeg
  • gwella darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol Cymraeg fel nad yw plant yn cael eu colli o addysg Gymraeg
  • lleihau’r pellter i fod yn gymwys am drafnidiaeth am ddim i’r ysgol uwchradd o dair milltir i ddwy.

“Darparu addysg Gymraeg ar garreg y drws ym mhob ardal yw’r unig ffordd o sicrhau bod pawb yn cael dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus,” meddai Toni Schiavone.

“Gyda’r Eisteddfod ym Mhontypridd eleni, mae cyfle mawr gan y Cyngor i wrthdroi hanes y degawdau diwethaf a gadael gwaddol drwy ddechrau o ddifri ar y llwybr i roi’r Gymraeg i bob plentyn yn y sir.”