Mewn unrhyw siop gornel, gorsaf betrol neu archfarchnad yn yr Alban, fe welwch chi fod bron pob un papur newydd wedi’i brintio yn yr Alban ac yn ymdrin â materion Albanaidd; mae ecosystem, fel petai, o ohebiaeth a disgwrs cenedlaethol yno. Yn anffodus, dydy’r un fath ddim yn wir am sefyllfa’r cyfryngau yng Nghymru, o ran papurau newydd, darlledu neu unrhyw fath arall. Caiff ein cyfryngau eu dominyddu gan gyhoeddiadau Llundeinig, ac mae’r papurau newydd rydym yn eu derbyn yr un fath bron ag unrhyw siop gornel, gorsaf betrol neu archfarchnad yng Nghaint neu Efrog.

Os rhywbeth, mae’r sefyllfa’n gwaethygu. Mae’r model ariannu papurau newydd a gwasanaethau newyddion o bob math, yn lleol a chenedlaethol, yn prysur ddymchwel oherwydd diffyg gofal a buddsoddiad yn yr oes ddigidol, ac mae’r safon mae gweithwyr newyddion yn gallu ei gynnal ar bob lefel yn dirywio o ganlyniad. Mae’r Western Mail, un o unig gewri newyddiadurol Cymru – er gwell neu er gwaeth – wedi datgan eu trafferthion ariannol hyd yn oed.

Does dim posib cynnal democratiaeth iach fel hyn, na sicrhau bod y boblogaeth yn deall ac yn ymdrin â materion cyfoes ein gwlad. “Vaughan Gething has stood down as Welsh First Minister, leading to some awkward questions, primarily, ‘who’s Vaughan Gething?’” oedd trydariad cyfrif swyddogol y rhaglen deledu Have I Got News For You mewn ymateb i’r stori syfrdanol wythnos diwethaf. Ai dyma’r gorau y gall y cyfryngau Prydeinig ei gynnig?

Methiannau

Ers 2010, mae cyllideb S4C wedi crebachu o 36% mewn termau real, gan arwain at gwymp yn ei chynnwys. Fe fethodd pedwar Ysgrifennydd Gwladol Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn olynol gyfarfod â Rhodri Williams yn ystod ei dymor yn Brif Weithredwr y sianel. Dros ddeugain mlynedd wedi ei sefydlu, mae’n parhau i dderbyn peth o’i hincwm o hysbysebion a gwerthu rhaglenni i ddarlledwyr eraill, fel petai’n sianel fasnachol, yn hytrach na’r darlledwr cyhoeddus mae Cymru a’r Gymraeg ei angen. Prin dim mae’r rhai sydd â goruchwyliaeth drosti yn poeni amdani hefyd.

Mae cyfundrefn ddarlledu a chyfathrebu Cymru wedi torri, ond pa syndod yw hyn mewn gwirionedd pan fo’r penderfyniadau allweddol yn y maes i gyd yn cael eu gwneud yn Llundain, gan lywodraeth dydyn ni ddim yn eu hethol? Dyna’r broblem sylfaenol sy’n ein hwynebu ni, a dyna sy’n rhaid ei newid.

Datganoli darlledu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am sefydlu Awdurdod Darlledu i Gymru ers 1970. Wedi dros hanner canrif o ymgyrchu, rydym wedi cyrraedd carreg filltir ar y ffordd at gyflawni hynny.

Ers 2021 a’u Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn gyhoeddus eu bod o blaid datganoli darlledu. Fis Mawrth eleni, cyhoeddon nhw’r bwriad i greu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru – cam hanesyddol tuag at y nod hwnnw. Ymysg cyfrifoldebau’r corff newydd fydd:

  • llunio model amgen ar gyfer S4C er mwyn cryfhau ei darpariaeth a’i hannibyniaeth
  • ailystyried rôl Ofcom
  • edrych ar ffyrdd eraill o ymyrryd er mwyn cryfhau craffu a democratiaeth Cymru.

O’i sefydlu gyda gweledigaeth, grym a chyllid digonol, gall ddechrau mynd i’r afael â’r heriau andwyol sy’n ein hwynebu yn y maes.

Y cwestiwn mawr erbyn hyn yw sut gall y corff wneud y gwahaniaeth mwyaf? Dyna fydda i, yr Athro Tom O’Malley o Brifysgol Aberystwyth, Llion Iwan o Gwmni Da a Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn ei drafod yng nghyfarfod cyhoeddus ‘Corff darlledu a Chyfathrebu newydd i Gymru – y camau nesaf at ddatganoli pwerau cyfathrebu a darlledu i Gymru yn Galeri Caernarfon, am 4 o’r gloch ddydd Llun nesaf, Gorffennaf 29.

Byddwn ni’n trafod sut y gall y Corff bontio rhwng ein sefyllfa bresennol a dyfodol lle mae darlledu wedi’i ddatganoli, a’r penderfyniadau’n cael eu gwneud gan wleidyddion sy’n atebol i ni. Byddwn ni hefyd yn trafod dyfodol y sianel, a model amgen ar gyfer cyllido a rheoleiddio S4C, sy’n sicrhau ei bod yn diwallu anghenion yr iaith.

Dyna beth mae Cymru ei hangen; ni wneith ddim byd llai y tro.