Mae ymgyrchwyr iaith yn disgwyl i Gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo cyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 ledled y sir a fyddai’n cyfyngu ar ail dai a llety gwyliau er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y sir.

Mi fydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn gwneud penderfyniad terfynol ar gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 ar gyfer y sir ddydd Mawrth nesaf (16 Gorffennaf).

Pe bai’r cynnig yn pasio, Cyngor Gwynedd fyddai’r awdurdod lleol cyntaf i gymryd cam arloesol o’r fath.

Byddai’r newid, pe bai’n llwyddiannus, yn weithredol o 1 Medi 2024.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith mewn datganiad eu bod wedi galw sawl gwaith ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth ac arweiniad i Awdurdodau Lleol i gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4, a fyddai’n gwneud caniatâd cynllunio’n ofynnol cyn troi cartref parhaol yn ail dŷ neu lety gwyliau, ac maent yn ategu’r alwad honno eto.

“Arf newydd”

Mewn datganiad gan Gyngor Gwynedd dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd eu bod yn awyddus i weld “pobol leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni.

“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.

“Trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, byddai gan y Cyngor arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau.

“Byddai’r newid yn golygu y byddai angen i berchnogion gyflwyno cais cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo preswyl yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr.”

Erthygl 4

Yn 2021 fel rhan o becyn o fesurau, rhoddodd Llywodraeth Cymru’r gallu i awdurdodau cynllunio lleol gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4.

Ar ddechrau’r broses, fe gyflwynwyd Adroddiad Cyfiawnhau i’r Cyngor a oedd yn cyfeirio at waith ymchwil a ddangosa nad oedd 65.5% o boblogaeth y sir yn gallu fforddio byw yno.

Ategir yn yr adroddiad nad oedd y mesurau a gyflwynwyd, megis cynyddu premiwm treth cyngor ar ail dai, ddim yn ddigon ar ben eu hunain i daclo’r broblem.

Roedd ffigurau’r Cyfrifiad diwethaf yn agoriad llygaid pan gwympodd poblogaeth Gwynedd o 3.7% a’r gyfran oedd yn siarad Cymraeg o 1%.

Ysgrifennodd Gwyn Siôn Ifan, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith, lythyr agored at Gabinet Cyngor Gwynedd yn nodi bod “disgwyl” i’r awdurdod “ddefnyddio’r holl rymoedd sydd ar gael i chi fynd i’r afael â’r argyfwng tai, yn yr achos hwn, trwy gyflwyno gorchymyn Erthygl 4 ar draws y sir.”

Ychwanegodd ei fod yn allweddol bod Cyngor Gwynedd yn parhau gyda’r polisi er mwyn “dangos y ffordd” a “rhoi arweiniad i weddill Cymru.”

Cynghorau eraill

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw ar gynghorau eraill i ddilyn eu hesiampl.

Mae ambell i awdurdod lleol wedi oedi cyn cyflwyno mesur tebyg gan gynnwys Cyngor Conwy a Cheredigion.

Cyfeiriodd Cyngor Conwy at heriau staffio a chost fel rheswm i beidio parhau gyda’r polisi fis Ebrill eleni.

Tra nododd Cyngor Ceredigion eu bod angen gweld sut mae’r broses yn gweithredu yng Ngwynedd cyn dechrau arni yno.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi blaenoriaethu gwaith ar gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 dros y Cynllun Datblygu Lleol yn ardal y parc.

Argyfwng tai yn bodoli tu allan i ffiniau Gwynedd

Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith eu bod yn “falch o weld Cyngor Gwynedd yn mynd ati gyda’r broses o gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 a hynny ar draws y sir gyfan, ond mae argyfwng tai Cymru’n bodoli y tu hwnt i ffiniau Gwynedd.

“Mae’n amlwg bod ystyriaethau ariannol, capasiti swyddogion ac ansicrwydd am y broses yn eu hatal rhag gwneud felly mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi pecyn cymorth sy’n cynnwys cyllid ar gyfer staff ychwanegol er mwyn ei weinyddu a chanllawiau clir.

“Beth yw diben y grymoedd newydd yma os na all awdurdodau lleol wneud defnydd  ohonyn nhw oherwydd diffyg adnoddau neu arweiniad?”