Mae’r Blaid Lafur dan y lach, wedi i arolwg newydd ddangos bod bron i wyth ym mhob deg ymatebydd (78%) yng Nghymru wedi nodi nad yw nifer y staff nyrsio yn ddigonol i ofalu am gleifion yn ddiogel.

Mae’r data diweddaraf yn sgil arolwg y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dangos bod angen brys am fuddsoddiad yn y gweithlu nyrsio.

Mae’r arolwg o fwy na 11,000 o aelodau yn datgelu mai dim ond traean o’r shifftiau oedd â digon o nyrsys cofrestredig.

Mae prinder staff cronig yn golygu bod nyrsys unigol yn aml yn gofalu am ddeg, deuddeg, pymtheg neu ragor o gleifion ar y tro.

Yn ôl Plaid Cymru, mae hyn yn “dditiad damniol o reolaeth Llafur ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru”.

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol bellach yn galw am gyfyngiadau diogelwch critigol ar uchafswm nifer y cleifion y gall un nyrs fod yn gyfrifol amdanyn nhw.

‘Cylch dieflig yn methu staff a chleifion’

Fe wnaeth yr arolwg ganfod fod un ym mhob tair shifft ysbyty yn brin o o leiaf chwarter y nyrsys cofrestredig roedd eu hangen arnyn nhw. Yn y gymuned, roedd bron i bedwar ym mhob deg shifft yn brin o hyd at hanner y nifer arfaethedig o nyrsys cofrestredig.

Mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, nododd nifer sylweddol o nyrsys fod ganddyn nhw fwy na 51 o gleifion i ofalu amdanyn nhw.

O ran cleifion allanol, roedd adroddiadau cyson am lwyth achosion o fwy na 51 o gleifion.

Ar draws pob lleoliad, dywedodd 80% o’r ymatebwyr nad oes digon o nyrsys i ofalu am anghenion cleifion yn ddiogel.

“Heb gyfyngiadau diogelwch critigol ar uchafswm nifer y cleifion y gallan nhw ofalu amdanyn nhw, mae nyrsys yn cael eu gwneud yn gyfrifol am ddwsinau ar y tro, yn aml gydag anghenion cymhleth,” meddai’r Athro Nicola Ranger,  Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro a Phrif Weithredwr y Coleg Nyrsio Brenhinol.

“Mae’n beryglus i gleifion ac yn digalonni staff nyrsio.

“Pan na all cleifion gael mynediad at ofal diogel yn y gymuned, gwaethygodd yr amodau, ac maen nhw yn yr ysbyty yn y pen draw lle mae prinder gweithlu’r un mor ddifrifol.

“Mae’r cylch dieflig hwn yn methu staff a chleifion. Ni all hyn barhau.

“Mae gwir angen buddsoddiad brys arnom yn y gweithlu nyrsio ond hefyd i weld cymarebau nyrsys i gleifion sy’n hanfodol i ddiogelwch wedi’u hymgorffori yn y gyfraith.

“Dyna sut rydyn ni’n gwella gofal ac yn atal cleifion rhag dod i niwed.”

‘Rhoi anghenion cymunedau Cymru yn gyntaf’

Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor a Meirionydd, wedi beirniadu “anfaddeuoldeb Llafur o ran gosod cynllun gweithlu”.

“Mae hwn yn dditiad damniol o reolaeth Llafur ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ac yn llwyr danseilio ymdrechion i osod lefelau staffio diogel yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar y dibyn gyda gwyliadwriaeth Llafur, adlewyrchiad nid o waith caled a phroffesiynoldeb trylwyr nyrsys ond oherwydd bod gweinidogion iechyd Llafur olynol wedi tynnu eu llygaid oddi ar y bêl tro ar ôl tro.

“Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers blynyddoedd y bydd ymyrraeth Llafur o ran gosod cynllun gweithlu a’i agwedd ddiystyriol tuag at dalu nyrsys yn deg yn rhoi straen ychwanegol ar y gweithlu.

“Mae’n amlwg nad oes gan Lafur na’r Torïaid gynllun clir i ddiogelu dyfodol ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf gwerthfawr a dyna pam mai pleidlais i Blaid Cymru ar Orffennaf 4 yw’r unig ffordd o roi anghenion cymunedau Cymru yn gyntaf.”

Y Ceidwadwyr yn cynnig ffordd ymlaen

Yn ôl Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, mae gan ei blaid gynllun i fynd i’r afael â’r broblem.

“Mae gennym argyfwng staffio yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ac mae angen cwrdd â’r isafswm lefelau staffio neu mae risg ddifrifol i ddiogelwch cleifion.

“Ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur, mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cael ei dorri, nid unwaith, nid ddwywaith, ond deirgwaith, gyda chronfeydd ychwanegol yn cael eu gwastraffu ar staff asiantaeth gostus.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithredu cynllun gweithlu sylweddol gydag ad-daliad ffioedd dysgu i nyrsys sy’n aros ac yn gweithio yng Nghymru ar ôl eu hastudiaethau, wrth ei wraidd.”

Buddsoddi £281m i gynyddu potensial hyfforddi

“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gweithlu nyrsio yng Nghymru a’r gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddarparu’r gweithlu sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac eleni rydym yn buddsoddi £281m i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi.

“Mae ein Cynllun Gweithredu Gweithlu Cenedlaethol yn nodi camau gweithredu i gadw mwy o staff yn y gweithlu, gan gynnwys gwella lles staff, a buddsoddiad parhaus mewn addysg a hyfforddiant.

“Rydym wedi parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r holl undebau llafur iechyd a Chyflogwyr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i gyflawni’r elfennau nad ydyn nhw’n ymwneud â chyflogau y cytunwyd arnyn nhw o fewn y cynnig cyflog 23/24, gan gynnwys mwy o fynediad at drefniadau gweithio hyblyg.”