Mae pleidleiswyr yn cwyno am daflenni uniaith Saesneg gan ymgeiswyr nifer o’r prif bleidiau.

Does yna’r un gair o Gymraeg ar daflen Franck Banza, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Gŵyr, medd Ioan Richards o Graigcefnparc, Abertawe mewn llythyr agored.

Mae cwynion tebyg ar y cyfryngau cymdeithasol am daflenni gan y Ceidwadwyr, Llafur ac Abolish the Welsh Assembly hefyd.

‘Sarhad’

Dywed Ioan Richard fod peidio rhannu taflenni dwyieithog yn “sarhad” ar bobol Abertawe, lle mae tua 35,000 o siaradwyr Cymraeg, a “miloedd yn fwy yn cydymdeimlo â’r iaith, a mwy yn falch o fod yn Gymraeg”.

“Mae hyn yn sarhad gan drefnwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, nid eu hymgeisydd,” meddai.

“Roedd y Rhyddfrydwr enwocaf, David Lloyd George, yn siarad Cymraeg yn rhugl fel ei iaith gyntaf.

“Dw i’n methu â deall meddylfryd ddiddeall warthus trefnwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru heddiw.”

‘Gwarthus iawn’

Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae ‘Robert Bruce’ wedi tynnu sylw at dudalen uniaith Saesneg dderbyniodd gan blaid Abolish the Welsh Assembly yn sedd Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe.

“Am sioc,” meddai ar X, Twitter gynt, â’i dafod yn ei foch.

Yn Nwyfor Meirionnydd, mae Tommie Collins wedi rhannu llun o daflen uniaith Saesneg dderbyniodd gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Deiniol Carter yng Nghaerdydd yn dweud ei fod wedi cael taflenni uniaith Saesneg gan Jo Stevens, yr ymgeisydd Llafur yno.

“Gwarthus iawn! Does neb yn cnocio fy nrws ond wedi cael taflenni uniaith Saesneg,” meddai Deiniol Carter.

“Cyflwyniad gwarthus i gynrychiolydd posib wrth i ffiniau etholaethau newid – heb hyd yn oed ddod i gnocio’r drws, ond yn postio testun Saesneg yn unig drwy fy nrws.”

‘Dathlu’r iaith’

Wrth ymateb, dywed y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eu bod nhw wastad wedi bod yn llafar eu cefnogaeth tuag at dwf y Gymraeg.

“Fel plaid rydyn ni’n rhoi’r cyfrifoldeb o greu a dylunio pamffledi i’n grwpiau unigol, felly byddai unrhyw benderfyniadau wedi cael ei wneud gan y blaid yn lleol,” meddai llefarydd ar eu rhan.

“Fel Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, fyddan ni wastad yn dathlu’r iaith a diwylliant Cymru.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y pleidiau.