Byddai dros 300,000 o weithwyr yng Nghymru’n elwa pe baen nhw’n derbyn tâl salwch statudol ar ddiwrnod cyntaf eu salwch, yn ôl astudiaeth newydd.

Fe fu’r TUC a’r Centre for Progressive Change yn cydweithio ar astudiaeth sydd wedi cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mehefin 24).

Pe bai’r gyfraith yn cael ei newid, byddai 337,000 o weithwyr yn gallu tâl salwch statudol ar ddiwrnod cyntaf eu salwch yn hytrach nag aros tan y pedwerydd diwrnod cyn derbyn unrhyw fath o gefnogaeth.

Mae hyn yn cyfateb i 26% o’r holl weithwyr yng Nghymru, gyda’r gyfradd yn sylweddol uwch mewn rhai ardaloedd.

Mae’r ddau sefydliad yn rhybuddio y bydd gweithwyr yn parhau i wynebu bod ar “ymyl y dibyn yn ariannol” heb fod y drefn yn cael ei diwygio.

Y rhai sy’n ennill lleiaf yn dioddef waethaf

Fe wnaeth y sefydliadau fu’n cynnal yr arolwg dynnu sylw at y ffaith mai’r rhai sy’n ennill lleiaf sy’n dioddef waethaf o dan y drefn bresennol.

Yng Nghymru, dydy mwy nag 20,000 ddim yn derbyn tâl statudol, gan nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy isafswm cyflog o £123 yr wythnos.

Menywod sy’n dioddef yn bennaf.

Hawliau teg o ran tâl salwch

Mae’r TUC a’r Centre for Progressive Change yn galw ar y pleidiau gwleidyddol yn yr etholiad cyffredinol i:

  • roi terfyn ar y pedwar diwrnod sy’n rhaid aros am dâl statudol, a’i dalu ar y diwrnod cyntaf
  • Gwarchod tâl salwch y rhai sy’n ennill lleiaf drwy ddileu’r terfyn isafswm cyflog

Mae’r ddau beth hyn eisoes yn rhan o faniffesto Llafur, sydd wedi’u cefnogi gan nifer o’r undebau llafur.

‘Ymyl y dibyn’

“Ddylai neb gael eu taflu i mewn i galedi pan fyddan nhw’n mynd yn sâl,” medd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Ond mae cannoedd o filoedd o weithwyr yng Nghymru’n wynebu bod ar ymyl y dibyn yn ariannol os ydyn nhw’n mynd yn sâl.

“Mae gwneud i bobol aros tridiau cyn derbyn cefnogaeth yn anghyfiawn – yn enwedig yn yr argyfwng costau byw presennol.

“Dyna pam ei bod hi’n hanfodol fod tâl salwch statudol ar gael o’r diwrnod cyntaf ac ar gael i bawb.

“Mae cael eu gorfodi i weithio drwy salwch yn ddrwg i weithwyr ac yn ddrwg i iechyd y cyhoedd.”

£1 yr awr

“Mae’r tri diwrnod di-dâl wrth aros am dâl salwch yn golygu bod gweithiwr llawn amser ar dâl salwch statudol yn cael cyfradd tâl salwch o £1 yr awr yn unig, mewn gwirionedd,” meddai Amanda Walters, Cyfarwyddwr y Centre for Progressive Change, sy’n cydlynu’r ymgyrch Safe Sick Pay.

“Mae elusennau, gweithwyr, busnesau ac undebau llafur yn galw ar y llywodraeth nesaf i newid y drefn hon sydd wedi torri.

“Mae’r tâl salwch sy’n cefnogi gweithwyr yn ariannol i gymryd yr amser i ffwrdd sydd ei angen arnyn nhw yn golygu bod llai o berygl iddyn nhw gael eu gorfodi’n ôl i’r gwaith cyn eu bod nhw’n barod, gan ledaenu heintiau neu niweidio’u hiechyd hirdymor eu hunain.

“Mae hyn yn dda i weithwyr, cyflogwyr ac i’r economi.”