“Digon yw digon” yw neges y Ceidwadwyr Cymreig, ar ôl iddyn nhw lansio’u maniffesto heddiw (dydd Gwener, Mehefin 21) ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Wrth lansio’r maniffesto, fe wnaethon nhw ladd ar record Llywodraeth Lafur Cymru dros gyfnod o chwarter canrif.

Yn ôl y blaid, fe fu Llafur yn gyfrifol am “y rhestrau aros hiraf yn y Deyrnas Unedig” o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Cymru hefyd ar waelod tabl addysg gwledydd y Deyrnas Unedig, medden nhw, ac mae gan Gymru’r cyfraddau cyflogaeth isaf hefyd.

“Mae gennym ni record gref o weithredu yng Nghymru, o dorri trethi, rhoi £700 yn ôl ym mhocedi gweithwyr Cymreig sy’n gweithio’n galed, i gyflwyno dau borthladd rhydd fydd yn creu miloedd o swyddi a buddsoddi £2.5bn i gefnogi trafnidiaeth, twristiaeth, treftadaeth a diwylliant ledled Cymru,” meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol diweddaraf Cymru.

“Megis dechrau yw hyn.

“Bydd ein cynllun dewr ar gyfer Cymru’n mynd ymhellach fel bod pobol yng Nghymru’n cadw mwy o’r arian maen nhw wedi gweithio’n galed i’w ennill i’w wario ar beth bynnag maen nhw ei eisiau, nid yr hyn mae’r Llywodraeth ei eisiau.

“Byddwn ni’n parhau i ddod â buddsoddiad a swyddi i Gymru, fel y gall pobol ddarparu ar gyfer eu teuluoedd a mwynhau’r sicrwydd o fod yn berchen ar gartref.

“Byddwn ni’n sicrhau bod gan ein plant y dechrau gorau yn eu bywydau, gyda mynediad at gyfleoedd nad oedden nhw’n eu hystyried yn bosib.”

‘Diffyg uchelgais’

Ond maen nhw’n dweud bod “diffyg uchelgais Llafur yn glir i bawb ei weld”.

Dim ond y Ceidwadwyr fydd yn gweithredu ar ran gogledd Cymru, medden nhw wrth lansio’u maniffesto ym Mae Cinmel.

“Dywedodd Keir Starmer mai Llafur yng Nghymru yw ei lasbrint ar gyfer yr hyn y byddai’n ei wneud yng ngweddill y Deyrnas Unedig,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.

“Yma yng Nghymru, rydyn ni’n gwybod fod hyn yn rhybudd cryf wrth i ni ddioddef â 20,000 o bobol yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth, tebygolrwydd 50/50 y bydd ambiwlans yn cyrraedd pan fo’i angen, a therfynau cyflymder 20m.y.a. yn bwrw economi Cymru hyd at £9bn.

“Dyna sut mae’n edrych ar ôl 25 mlynedd o Lafur mewn grym, ond does dim rhaid iddi fod felly.

“Mae gennym ni gynllun i achub ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, cynllun i roi hwb i’n heconomi, a chynllun i gael Cymru’n symud.

“Ar Orffennaf 4, mae’n hanfodol fod pobol yn defnyddio’u llais i ddweud wrth Lafur mai digon yw digon, a bod Cymru’n haeddu gwell.”