Mae Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi beirniadu agwedd Jo Stevens tuag at Gymru.

Ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd yr ymgeisydd Llafur all fod yn Ysgrifennydd Gwladol nesaf Cymru, fod ganddi “hyder llwyr” yn Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, er gwaethaf sawl helynt dros y misoedd diwethaf arweiniodd at bleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth yn cael ei chynnal yn y Senedd.

Mae hi hefyd yn dweud na fyddai Cymru’n cael cyllid canlyniadol gan HS2 gan nad yw’r prosiect “yn cael ei adeiladu”, ac yn gwawdio datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru fel rhywbeth sy’n “chwarae o gwmpas gyda strwythurau a systemau”.

Mae Llafur Cymru’n cefnogi datganoli plismona, serch hynny, ac mae’r farn honno wedi’i chefnogi gan sawl comisiwn dros y degawd diwethaf.

Pe bai Llafur yn dod i rym yn San Steffan, gallai Jo Stevens gael ei phenodi’n Ysgrifennydd Cymru yng nghabinet Syr Keir Starmer, ond mae hi wedi cael ei chyhuddo o ddangos “agwedd nawddoglyd a dirmygus” tuag at y wlad.

Pencadlys Llafur ‘Cymreig’ yn Llundain

“Does dim diwrnod yn mynd heibio heb iddi ddod yn amlwg bod pencadlys Llafur ‘Cymreig’ wedi’i leoli’n gadarn yn Llundain,” meddai Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

“Ar ffaith ac egwyddor, mae Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, Jo Stevens yn anghywir.

“Anghywir dweud nad yw rheilffyrdd cyflym yn Lloegr yn cael eu hadeiladu, ac yn anghywir i beidio â chefnogi’r egwyddor y dylai Cymru gael ei chyfran o wariant ar brosiectau trafnidiaeth yn Lloegr.

“Wrth gyfeirio at ddatganoli fel cytundeb, fe roddodd darpar Ysgrifennydd Cymru ragolwg i ni o sut y byddai Cymru’n cael ei thrin gan lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig.

“Mae ei haeriad bod datganoli cyfiawnder yn gyfystyr â chwarae o gwmpas gyda strwythurau a systemau yn chwerthinllyd yn wyneb adroddiadau a gomisiynwyd gan Lafur sy’n cyflwyno’r achos cadarnhaol dros ddatganoli plismona a chyfiawnder.

“Dangosodd y cyfweliad agwedd nawddoglyd a dirmygus tuag at Gymru gan brif dîm Keir Starmer.

“Mae’n dod yn gliriach bob dydd mai’r unig bleidlais i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei chlywed a’i pharchu ar Orffennaf 4 yw pleidlais i Blaid Cymru.”

‘Ôl-ystyriaeth’

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae cyfweliad Jo Stevens yn dangos mai “ôl-ystyriaeth” yn unig yw Cymru i’r Blaid Lafur.

“Mae’r agwedd gafodd ei dangos neithiwr gan y gwleidydd all ddod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n fuan yn dangos mai ôl-ystyriaeth yn unig fydd Cymru i Lywodraeth Lafur arfaethedig,” meddai.

“Sut mae Cymru i fod i dderbyn y buddsoddiad sydd ei hangen arni i dyfu ei heconomi ei hun yn llwyddiannus os na all Llafur ymrwymo i bethau mor sylfaenol â rhoi i Gymru ei chyfran deg o arian HS2 neu drydaneiddio Prif Linell Arfordirol y Gogledd?”