Heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 18) yw’r diwrnod olaf i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol 2024.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig ar Orffennaf 4, a bydd angen i bob pleidleisiwr cymwys sicrhau eu bod nhw wedi cofrestru i bleidleisio erbyn diwedd y dydd heddiw.

I bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol, mae’n rhaid:

  • bod wedi cofrestru i bleidleisio
  • bod dros 18 oed ar ddiwrnod yr etholiad
  • bod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu un o wledydd cymwys y Gymanwlad
  • bod â chyfeiriad preswyl yn y Deyrnas Unedig (neu’n ddinesydd Prydeinig sy’n byw dramor ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig yn y 15 mlynedd diwethaf)

Mae angen bod ar y Gofrestr Etholiadol i bleidleisio mewn etholiadau.

Mae modd cofrestru i bleidleisio ar-lein neu drwy’r post, drwy’r wefan GOV.UK.

Mae’n cymryd tua phum munud i gofrestru ar-lein, a bydd angen Rhif Yswiriant Gwladol.

Dulliau eraill o bleidleisio

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiad cyffredinol yw 5 o’r gloch ddydd Mercher (Mehefin 19).

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais wedi’i dirprwyo ar gyfer yr etholiad cyffredinol yw 5 o’r gloch ddydd Mercher (Mehefin 26).

Mae modd gofyn am bleidlais frys drwy ddirprwyaeth ar ôl y dyddiad cau hwn os yw ymrwymiadau gwaith munud olaf neu argyfwng meddygol yn golygu nad oes modd pleidleisio’n bersonol.

Mae modd gwneud cais am hyn hyd at 5 o’r gloch ar ddiwrnod yr etholiad (ddydd Iau, Gorffennaf 4).

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd unrhyw un ar y Gofrestr Etholwyr yn derbyn cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad yn dweud pryd a ble i bleidleisio.

Yr ysgol neu neuadd bentref agosaf yw’r orsaf bleidleisio fel arfer.

Mae’r cerdyn pleidleisio er gwybodaeth yn unig, a does dim rhaid mynd ag e i’r orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio.

ID pleidleisiwr

Mae pobol sy’n pleidleisio yn y rhan fwyaf o etholiadau’r Deyrnas Unedig yn gorfod dangos ffurf ddilys o brawf adnabod gyda llun mewn gorsafoedd pleidleisio ers mis Mai’r llynedd.

Mae nifer o ffurfiau derbyniol o ID, gan gynnwys:

  • Pasbort a gyhoeddwyd gan y Deyrnas Unedig, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Prydain, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad
  • Trwydded yrru gan y Deyrnas Unedig, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu un o daleithiau’r AEE.
  • Dogfen fewnfudo biometrig
  • Cerdyn adnabod â hologram y Cynllun Profi Safonau Oedran (cerdyn PASS)
  • Bathodyn glas
  • Tocyn bws i Bobol Hŷn

Mae rhestr lawn ar y wefan GOV.UK.

Os nad oes gennych unrhyw un o’r mathau derbyniol o brawf adnabod oddi ar y rhestr lawn, mae modd gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (VAC).

Mae Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr (VAC) yn ddogfen adnabod ffotograffig am ddim gaiff ei ddefnyddio ac a gaiff ei gyhoeddi at y diben penodol i ganiatáu i etholwr bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.