Mae cyllid teg yn “hanfodol” er mwyn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltu cymunedau, yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Caerfyrddin yn San Steffan.

Mae Ann Davies, sy’n ymweld â Bysiau Cwm Taf heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 18), yn gobeithio cael ei hethol i’r rôl yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Dywed fod bron i £4bn o gyllid rheilffyrdd yn ddyledus i Gymru gan San Steffan, ac y gallai’r arian hwnnw gael ei ddefnyddio i adeiladu seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus y wlad ac adfer gwasanaethau bysiau gafodd eu torri gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Fe wnaeth Llafur torri £150m mewn gwasanaethau bysiau yng Nghymru y llynedd.

‘Yr unig blaid sy’n dadlau dros gyllid teg i Gymru’

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n dadlau dros gyllid teg i Gymru yn yr etholiad hwn – ac mae hynny’n cynnwys sicrhau’r £4bn sy’n ddyledus i Gymru o HS2 i fuddsoddi mewn gwella ein trafnidiaeth gyhoeddus ein hunain ym mhob rhan o’r wlad a gwrthdroi toriadau i wasanaethau bysiau lleol,” meddai Ann Davies.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi tanariannu Cymru ers dros bedair blynedd ar ddeg. Rhwng 2011 a 2020, er enghraifft, derbyniodd Cymru gyfanswm o £514m yn llai nag y byddai wedi’i gael o dan system gwariant rheilffyrdd y Deyrnas Unedig sy’n seiliedig ar boblogaeth.

“Ond mae hefyd yn hollol warthus bod Llafur hefyd yn gwrthod ymrwymo i roi cyllid llawn i Gymru gan HS2 – gan anwybyddu ewyllys y Senedd a changen Gymreig plaid eu hunain sydd wedi galw am hyn.

“Ac mae hynny heb ddechrau sôn am Lywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn torri £150m o gyllid bws yn 2023.

“Fel rhywun sy’n byw ac yn gweithio yma fy hun, rwy’n deall pa mor amhosib yw cyrraedd unrhyw le heb drafnidiaeth gyhoeddus da.

“Dyna pam mae Plaid Cymru wedi bod mor ddi-baid yn mynnu’r biliynau o gyllid sy’n ddyledus i ni fel y gallwn adeiladu ein seilwaith trafnidiaeth, adfer ein gwasanaethau bysiau, a chysylltu ein cymunedau gogledd i’r de.

“Ac mae manteision y cyllid hwn yn mynd y tu hwnt i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth yn unig.

“Gallai hefyd olygu buddsoddiad yn ein heconomïau lleol, creu swyddi ac ysgogi twf. Gallai hyn helpu i ddenu busnesau a diwydiannau newydd i’n rhanbarth, gan ddod â ffyniant a chyfleoedd mawr eu hangen i’n cymunedau.

“Dim ond pleidlais i Blaid Cymru ar Orffennaf 4 fydd yn mynnu tegwch i Gymru – gan roi’r cyllid sydd ei angen arnom a’r system drafnidiaeth gyhoeddus yr ydym yn ei haeddu.”