Mae hi “tu hwnt i amgyffred” nad yw dau Geidwadwr wedi cael eu diarddel, yn ôl Llafur Cymru.

Ar ôl i Craig Williams, ymgeisydd Maldwyn a Glyndŵr, gyfaddef betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol, daeth negeseuon testun i’r amlwg bellach sy’n dangos rhan Laura Anne Jones, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, mewn ymgais bwriadol i hawlio treuliau ffug.

Mae negeseuon testun sydd wedi dod i’r fei yn dangos ei bod hi wedi gofyn i weithiwr hawlio’r treuliau mwyaf posib ar ei rhan, ac mae’r mater bellach yn nwylo’r heddlu.

Mae ei chyfreithiwr yn dweud bod y sefyllfa wedi cael ei “chamddeall yn llwyr”.

‘Sioc’

“Bydd pleidleiswyr wedi cael sioc nad yw dau wleidydd gyda’r Ceidwadwyr Cymreig sy’n wynebu ymchwiliadau slebogrwydd wedi cael eu diarddel gan Rishi Sunak,” meddai Anna McMorrin o’r Blaid Lafur.

“Mae Laura Anne Jones, yr Aelod o’r Senedd, yn destun ymchwiliad gan yr heddlu tros honiadau o hawlio treuliau ffug.

“Yn gynharach yr wythnos hon, datgelwyd fod Craig Williams, cynorthwyydd agos Rishi Sunak, wedi rhoi bet ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol, ddyddiau’n unig cyn iddo gael ei gyhoeddi.

“Mae e bellach yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo.

“Mae hi tu hwnt i amgyffred nad yw Rishi Sunak wedi diarddel y naill berson eofn na’r llall.

“Ar Orffennaf 4, gallwn ni droi’r tudalen ar anhrefn y Torïaid a phleidleisio dros newid gyda Llywodraeth Lafur newydd.”