Mae maniffesto Plaid Cymru’n dangos eu bod nhw’n “gwrando ar fenywod”, yn ôl ymgeisydd y Blaid ar gyfer sedd Gorllewin Caerdydd yn San Steffan.

Yn 26 oed, Kiera Marshall yw un o’r ymgeiswyr seneddol ieuengaf yn yr etholiad cyffredinol, fydd yn cael ei gynnal ar Orffennaf 4.

Roedd hi’n bresennol yn lansiad maniffesto Plaid Cymru yn y brifddinas heddiw (dydd Iau, Mehefin 13).

“Dw i’n teimlo’i fod e wedi mynd yn dda iawn; roedd ymateb i’r hyn oeddwn i’n ei ddweud yn ystod yr arall, felly profiad gwych,” meddai.

Uchafbwyntiau’r maniffesto

Dywed Kiera Marshall iddi ddioddef stelcian yn y brifysgol, ac felly mae hi’n falch o weld bod ei hymgyrch hi ac Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd, gan gynnwys Delyth Jewell, bellach wedi troi’n bolisi ganddyn nhw.

“Mae gennym bethau da iawn ar les a deddfwriaeth ar stelcian,” meddai.

“Roeddwn i’n hapus iawn i weld hynny, oherwydd mae’n rywbeth dw i wedi ymgyrchu drosto ers amser hir.

“I’w weld e yn y maniffesto ac i’r Blaid ddangos eu bod nhw’n gwrando ar fenywod y Blaid, mae hynny’n wych.

“Hefyd, mae pethau am daliadau lles i blant ac i bobol ifanc.

“Mae pobol wedi’u taro’n arw gan yr argyfwng costau byw, ac mae’n rhaid i ni weld cymorth i’r bobol hynny.”

Y frwydr yng Ngorllewin Caerdydd

Mae sedd Gorllewin Caerdydd yn wag yn dilyn ymddeoliad Kevin Brennan, yr Aelod Seneddol Llafur.

Fel plaid sy’n ceisio apelio mwy at bobol ifanc Cymru, tybed a yw Kiera Marshall yn teimlo fel un o brif ffigurau Plaid Cymru yn yr etholiad hwn?

“Dw i ddim yn teimlo fel hynny, ond dw i yn gwerthfawrogi’r cyfle i allu agor yr araith yma heddiw,” meddai wedyn.

“Roedd hwnna’n teimlo fel rhywbeth mawr.

“Mae yna gyfle yng Ngorllewin Caerdydd nawr.

“Mae Llafur wedi gadael eu haelodau a’r etholaeth lawr, a dydy’r Torïaid ddim wir yn y darlun.

“Felly, dw i’n meddwl bod y Blaid a’r etholwyr yn gweld cyfle i ni yn yr etholiad hwn.”

‘Diwylliant annemocrataidd yn y Blaid Lafur’

Mae’r Blaid Lafur wedi cael eu beirniadu’n ddiweddar, yn allanol ac yn fewnol, gan aelodau sy’n dweud bod yna “ddiwylliant annemocrataidd”, ar ôl i Alex Barros-Curtis, Cyfarwyddwr Materion Cyfreithiol Llafur, gael ei enwebu a’i barasiwtio i mewn i fod yn ymgeisydd yn yr etholaeth er nad oes ganddo fe unrhyw gysylltiad â’r ardal.

“Mae hyn yn gyfle i ni oherwydd bod pleidleiswyr traddodiadol Llafur hefyd yn flin,” meddai Kiera Marshall wedyn.

“Dw i’n meddwl ei fod e’n dangos eu bod nhw [Llafur] yn meddwl ei bod yn sedd ddiogel, a does ganddyn nhw fawr o ots am y lle.

“Fydden nhw byth yn gwneud hyn mewn sedd ymylol, oherwydd fyddai pobol ddim yn ei dderbyn e.

“Efallai eu bod nhw’n meddwl bod Caerdydd yma ac yn hawdd ei hennill, ond dw i ddim yn meddwl bod hynny’n wir.”

Beth sy’n bwysig i bobol?

Yn ôl Kiera Marshall, iechyd a rhestrau aros, trafnidiaeth a HS2 yw’r prif bethau sy’n poeni pleidleiswyr ar hyn o bryd.

“Mae’r sefyllfa ym Mhalesteina wedi dod i fyny hefyd,” meddai.

“Mae pobol wir yn pryderu am y datblygiadau diweddar, a’r ffaith fod Keir Starmer wedi bod yn wan ar hyn.

“Mewn dinasoedd gyda’r fath amrywiaeth o bobol o wahanol oedrannau ac o wahanol wledydd, dw i’n meddwl bo ti’n cael mwy o empathi ar gyfer pobol yn rhyngwladol.

“Ond yn naturiol, dw i’n meddwl bod pobol yng Nghymru wedi tueddu fwy at yr asgell chwith ac mae e yn ein natur i ofalu am bobol eraill.

“Un o’r pethau sydd wedi dod i fyny ar stepen y drws ydy cenedlaetholdeb, rhywbeth mae etholwyr yn drysu yn ei gylch yn sgil Plaid Cymru.

“Dw i’n deall pam maen nhw’n dweud hynny, ond nid dyna’r math o genedlaetholdeb sydd gyda ni.

“Rydym yn fwy o genedlaetholwyr gwleidyddol, lle rydym eisiau rheoli penderfyniadau yma, ddim y math o ethno-genedlaetholdeb rydym yn ei weld gyda phleidiau fel Reform.”