Tra bo Llafur y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw wedi gwneud “cynnig beiddgar” i Gymru yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol, mae’r maniffesto hwnnw “heb uchelgais i Gymru”, yn ôl Plaid Cymru.

Wrth lansio’r maniffesto ar gyfer yr etholiad ar Orffennaf 4, dywedodd yr arweinydd Syr Keir Starmer ei fod yn “ymrwymo i newid”, gan gynnig “llais cryfach i Gymru mewn Deyrnas Unedig decach ar swyddi, hyfforddiant, ynni, datganoli a mwy”.

Dywed mai “glasbrint ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus” yw hwn, “gyda dwy lywodraeth yn cyd-dynnu dros ddyfodol Cymru a Phrydain, a Keir Starmer a Vaughan Gething yn cydweithio mewn partneriaeth”.

Mae’r maniffesto yn cynnwys chwe cham ar gyfer newid, ynghyd â phecyn newydd i Gymru ac i’r llywodraeth ddatganoledig, medd Llafur.

‘Nofio yn erbyn y lli’

“Ers 14 o flynyddoedd hir, rydyn ni wedi bod yn nofio yn erbyn lli’r Torïaid, gyda llywodraeth yn San Steffan sy’n amharchu datganoli,” meddai Vaughan Gething, Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru.

“Mae’r etholiad hwn yn ymwneud â’r newid sydd ei angen ar Gymru a Phrydain.

“Ac mae maniffesto Llafur y Deyrnas Unedig yn amlinellu cynnig beiddgar i Gymru.

“Gyda Jo Stevens yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Keir Starmer yn Rhif 10 [Downing Street], dw i’n hyderus ynghylch lle Cymru mewn Prydain newydd.

“Dim ond trwy bleidleisio dros Lafur ar Orffennaf 4 mae modd sicrhau’r newid hwnnw.”

‘Cymru gryfach’

Yn ôl Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn y senedd ddiwethaf, bydd maniffesto Llafur yn sicrhau “Cymru gryfach mewn Prdain newydd”.

“Byddwn ni’n sgubo ymaith yr anhrefn a’r rhaniadau, ac yn cyflwyno’r dyfodol uchelgeisiol mae Cymru’n ei haeddu,” meddai.

“Bydd dwy lywodraeth Lafur, drwy gydweithio, yn adeiladu partneriaeth newydd i Gymru sydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau pobol o ddydd i ddydd.

“Mae’r Torïaid wedi ein dysgu ni i ddisgwyl llai gan ein llywodraethau yn y Deyrnas Unedig, i ddisgwyl llai i ni ein hunain a’n teuluoedd.

“Mae maniffesto Llafur i’r gwrthwyneb.

“Mae’n addewid i droi’r dudalen, ailadeiladu gobaith a chyflwyno newid.”

Maniffesto “heb uchelgais” sy’n “wfftio Cymru”

Ond mae Plaid Cymru’n dweud bod maniffesto Llafur “heb uchelgais” a’i fod yn “wfftio Cymru”.

“Mae pobol Cymru’n blino fwyfwy â diffyg uchelgais Llafur i’n cenedl,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Fydd ‘archwilio’ nac ‘ystyried’ jest ddim yn tycio pan fo’r heriau sy’n wynebu ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus mor enfawr.

“Mae Plaid Cymru’n falch fod ein maniffesto’n cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod â maniffesto Llafur.

“O osod y ddau ochr yn ochr, allai’r bwlch rhyngddyn nhw ddim bod yn fwy pan ddaw i frwydro dros fuddiannau Cymru.

“Dw i’n annog pawb i gofio ar Orffennaf 4 fod Keir Starmer wedi wfftio Cymru, ac i bleidleisio dros Blaid Cymru, yr unig blaid sydd wir yn gofalu am ein cymunedau.”

Maniffesto byr

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi tynnu sylw at hyd yr adran yn y maniffesto sy’n cyfeirio at amaeth.

Dim ond 87 gair sy’n cyfeirio at y maes hwnnw.

“Mae Llafur wedi siomi ffermwyr unwaith eto,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.

“Tra bod pobol yn y sector amaeth yn ofni am eu bywoliaeth oherwydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae adran fach iawn Llafur yn eu maniffesto yn dangos eu diffyg ymrwymiad i’n cymunedau gwledig.”

Wrth drafod maes cyfiawnder ieuenctid, dywed fod y “sôn am ddatganoli rhagor o bwerau ond yn achos arall o dynnu sylw gan Lafur, sydd â mwy o obsesiwn am ymbweru eu gweinidogion eu hunain ym Mae Caerdydd nag ymbweru pobol Cymru”.