Mae ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr ar gyfer Maldwyn a Glyndŵr wedi cyfaddef betio ar ddyddiad a chanlyniad yr etholiad cyffredinol, yn ôl adroddiadau yn y Guardian.

Daeth i’r amlwg fod Craig Williams wedi betio yn un o siopau Ladbrokes yn ei etholaeth ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol dridiau cyn y cyhoeddiad swyddogol.

Roedd e wedi betio £100, ac fe allai fod wedi ennill £500, ond daeth y bet i sylw’r cwmni, sydd â chyfrifoldeb i adrodd am achosion lle mae pobol sy’n agored i dwyll yn betio.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Craig Williams y bydd yn “cydymffurfio’n llawn” ag ymchwiliad y Comisiwn Gamblo i’w ymddygiad.

Gallai manteisio ar wybodaeth gyfrinachol er elw gael ei ystyried yn drosedd hefyd, ac fe allai ei ymddygiad gael ei ystyried yn achos o ddwyn anfri ar San Steffan.

Dywed nad yw’n dymuno i’r helynt dynnu sylw oddi ar yr ymgyrch, ond dydy e ddim wedi cadarnhau ei fod e wedi camu o’r neilltu.

Ar ei dudalen X [Twitter gynt], mae e wedi atal pobol rhag gadael sylwadau ar y neges unigol hon.

Gyrfa

Cafodd Craig Williams ei benodi’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn 2022.

Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Sir Drefaldwyn yn etholiad cyffredinol 2019, ar ôl cynrychioli etholaeth Gogledd Caerdydd rhwng 2015 a 2017 a cholli ei sedd i’r aelod Llafur Anna McMorrin.

Dydy Downing Street ddim wedi gwneud sylw am y mater, ond mae lle i gredu bod Craig Williams yno bron yn ddyddiol yn rhinwedd ei swydd gyda Rishi Sunak, gyda’r ddau’n cydweithio’n agos.

‘Hollol anhygoel’

Yn ôl y Blaid Lafur, mae’r honiadau’n “hollol anhygoel”.

“Mae Rishi Sunak wedi cadw’r wybodaeth hon yn ôl ers dros wythnos, ond ni fu ganddo’r asgwrn cefn i weithredu,” meddai Jonathan Ashworth, y Tâl-feistr Cyffredinol yn San Steffan.

“Unwaith eto, mae Rishi Sunak wedi ymddangos yn hollol wan.

“Ar ôl holl sgandalau ariannol y Torïaid, dyma ragor o dystiolaeth eto nad yw’r Torïaid wedi dysgu dim, heb newid, ac o gael pum mlynedd arall bydd yr anhrefn jest yn parhau.”

‘Adrodd cyfrolau’

Mae Elwyn Vaughan, ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, wedi cyhoeddi datganiad Plaid Cymru ar ei gyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r adroddiadau hyn yn adrodd cyfrolau am grebwyll Craig Williams,” meddai.

“Fyddai neb mewn grym sy’n parchu’r rheiny oedd wedi eu hethol yn ymddwyn yn y modd yma.

“Mae’n bryd cael gwared ar y Torïaid rhag bod mewn grym, gyda phleidlais dros Blaid Cymru.”

Wrth ymateb, dywed Craig Williams ei fod e wedi gwneud “camgymeriad enfawr”.