Mae ymgeisydd Reform UK yn dweud ei fod yn “hyderus” y gall y blaid guro’r Ceidwadwyr yng Nghaerfyrddin.

Yn ôl Bernard Holton, sydd yn ymgeisydd ar gyfer sedd Caerfyrddin ac sydd wedi bod yn siarad â golwg360, mae’n rhaid “cael gwared” ar y Torïaid ar ôl iddyn nhw dorri addewidion, gan gynnwys ar fater mewnfudo.

Yn wreiddiol o Windsor, daeth Bernard Holton, sy’n 71 oed, i fyw yng Nghymru 40 mlynedd yn ôl, gan astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Symudodd wedyn i Sir Gaerfyrddin, lle’r oedd yn gweithio ym maes meddygaeth a fferylliaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Cymuned “gyfeillgar”

Yn ôl Bernard Holton, “mae Cymru’n llawer mwy cyfeillgar” na Windsor.

“Ar y diwrnod cyntaf wnes i gyrraedd y ffermdy, tra roeddwn yn dadbacio fe wnaeth y ffermwyr gerllaw droi i fyny i helpu, oherwydd dyma beth oedd yn arferol i bobol yn yr ardal yma, ond ddim i fi,” meddai wrth golwg360.

Bu’n aelod o Reform ers 2021, a thair wythnos ar ôl ymuno â’r blaid roedd yn sefyll yn etholiadau’r Senedd yn etholaeth Gorllewin Abertawe, lle daeth e’n wythfed allan o naw ymgeisydd.

“Oherwydd bod e mor agos i Reform yn cael ei sefydlu, dw i’n synnu ein bod ni wedi cael unrhyw bleidlais yr adeg honno, a bod yn onest,” meddai.

Cyn ymuno â Reform, roedd Bernard Holton yn dueddol o bleidleisio dros Lafur ym mhob etholiad, gan wrthbrofi’r canfyddiad mai pleidleiswyr Ceidwadol yn draddodiadol fu’n cefnogi Reform UK.

Ond mae’n dweud nad yw e wedi pleidleisio drostyn nhw ers helynt ‘bigotgate’ Gordon Brown adeg etholiad cyffredinol 2010.

‘Y cychod bach yw’r lleiaf o’n problemau’

Mae Nigel Farage, arweinydd Reform UK, yn sôn o hyd am y cychod bach sy’n croesi’r Sianel o dramor i gludo ffoaduriaid i wledydd Prydain.

Ond “y cychod bach yw’r lleiaf o’n problemau”, yn ôl Bernard Holton.

“Mae’r mewnfudo cyfreithlon yn enfawr,” meddai.

“Mae gennyt ti 2-2.5m o bobol yn dod i mewn, o gymharu â thua 30,000 i 40,000 yn croesi mewn cychod.”

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd yna 1.2m o fewnfudwyr erbyn mis Rhagfyr y llynedd, a ffigwr net o 685,000.

Ers hynny, mae Llywodraeth Geidwadol Rishi Sunak yn San Steffan wedi cyflwyno mesurau i leihau mewnfudo cyfreithlon.

Roedd nifer y ceisiadau am fisa gan ddarpar weithwyr iechyd sydd am astudio mewn prifysgolion wedi cwympo 25% yn ystod pedwar mis cyntaf 2024.

Ond i Bernard Holton a nifer o gefnogwyr Reform UK, dydy hynny ddim yn ddigon i ddenu pleidleisiau.

“Mae sefyllfa’r cychod yn swnio’n ofnadwy, ac maen nhw,” meddai, gan ychwanegu bod y Ceidwadwyr wedi dweud celwydd am fynd i’r afael â’r broblem er bod ganddyn nhw fandad i ddatrys y sefyllfa.

“Dyma pam dw i eisiau cael gwared arnyn nhw yn etholiadol,” meddai.

‘Hyderus’

Simon Hart, cyn-Ysgrifennydd Cymru, yw ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd newydd Caerfyrddin, ac mae Bernard Holton yn dweud ei fod yn “hyderus” y bydd e’n ei guro.

Hart oedd Aelod Seneddol Ceidwadol hen etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ers 2010.

“Dwi’n hyderus o guro’r Ceidwadwr (Simon Hart), sef y Prif Chwip,” meddai.

“I fi, mae e wedi mynd yn barod.

“Mae e wedi cael ei baentio â’r un brwsh ag y mae nifer o’r Ceidwadwyr wedi’i dderbyn yn ddiweddar.

“Dw i’n disgwyl un ai y bydda i’n ail, neu’n drydydd tu ôl i Lafur a Phlaid Cymru.

“Ond byddwn i’n hoffi cael go ar Blaid Cymru hefyd.”